
Mae galwadau dros hawliau i gael gofal iechyd yn Gymraeg wedi cynyddu wedi i Aelod Cynulliad, a gollodd ei allu i siarad Saesneg yn ystod salwch difrifol y llynedd, ddatgelu nad oedd staff yn gallu cyfathrebu gyda fe yn Gymraeg mewn ysbyty yng Nghaerdydd.
Cafodd Keith Davies, yr Aelod Cynulliad Llafur dros Lanelli, driniaeth niwrolegol fis Medi y llynedd ar ôl dioddef o salwch a olygodd ei fod wedi troi yn ôl at ei famiaith, sef y Gymraeg. Mae colli ail-iaith yn gallu digwydd i nifer fawr o gleifion, megis y rhai sy’n dioddef o demensia.
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi diolch i’r AC am gytuno i rannu ei brofiadau mewn cyfarfod cyhoeddus ar faes yr Eisteddfod ddydd Llun 5 Awst. Dywed y mudiad fod safonau iaith newydd Llywodraeth Cymru - rheoliadau a fydd gosod dyletswyddau ar gyrff a chwmniau i ddarparu gwasanaethau Cymraeg - yn ‘cynnig cyfle euraidd i’r Llywodraeth atal pobl rhag gorfod dioddef profiadau o’r fath yn y dyfodol’.
Yn y digwyddiad ar y maes bydd y mudiad yn lansio addewid i sefydliadau ac eraill eu llofnodi yn datgan eu cefnogaeth dros sefydlu tair hawl sylfaenol yn y rheoliadau newydd - yr hawl i ofal iechyd yn Gymraeg, yr hawl i weithio yn Gymraeg a’r hawl i chwarae yn Gymraeg.
Yn siarad cyn y digwyddiad yn yr Eisteddod, dywedodd Keith Davies, yr Aelod Cynulliad dros Lanelli: “Rwy’n ymwybodol iawn o fy mhrofiad personol i a’r teulu o’r drafferth wrth drio cael triniaeth yn Gymraeg.
“Amser o’n i yn yr ysbyty golles i’r gallu i siarad Saesneg. Heddyr, fy ngwraig, oedd yn gweud y stori wrtha i gan bo fi ddim mewn cyflwr i gofio. Doedd neb ’na yn deall beth o’n i’n gweud gan taw dim ond Cymraeg o’n i’n siarad.
“Pan oedd fy mab i, Iolo, yn fach, yng Ngorslas, oedd e’n uniaith Gymraeg. Doedd dim gair o Gymraeg gan y nyrs oedd yn ymweld â fe. Pan oedd hi eisiau gofyn iddo fe dwtsho ei drwyn, o’n i’n gorfod cyfieithu iddi.
“Mae’n bwysig bod staff yn y gwasanaeth iechyd yn siarad gyda chleifion yn Gymraeg. Mae Gwenda [Thomas] wedi gweud yn y Cynulliad bod angen gwella hyn - a gobeithio bydd y safonau iaith yn ffordd o sicrhau bod barn Gwenda yn cael ei ffordd o ran gwella’r ddarpariaeth.”
Ychwanegodd Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Mae stori Keith Davies yn llawer iawn yn rhy gyfarwydd i bobl ar hyd a lled Cymru. Ddylai’r math yma o beth ddim digwydd yng Nghymru. Heb sôn am dramgwyddo hawliau iaith pobl, dydy’r driniaeth iechyd ddim yn iawn chwaith. Mae'n warth.
“Bydd safonau iaith newydd yn cynnig cyfle euraidd i’r Llywodraeth atal pobl rhag gorfod dioddef profiadau o’r fath yn y dyfodol. Rydan ni’n falch iawn bod e’n fodlon siarad ar goedd ynglŷn â’r materion personol yma, er mwyn i bobl sylweddoli pa mor ddrwg ydy’r problemau.”