Cododd aelodau o Gymdeithas yr Iaith bosteri a chwistrellwyd y neges "Llywodraeth Cymru: Gweithredwch" ar adeiladau'r Llywodraeth yn Aberystwyth, Caerfyrddin a Chyffordd Llandudno heno, 06/12/2022.
Dywedodd llefarydd ar ran y Gymdeithas:
"Mae’r Llywodraeth wedi datgan bwriad i anelu am filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ond heb weithredu ar hynny. Mae sylwadau Mark Drakeford am addysg Gymraeg heddiw yn bwrw amheuaeth am y math o Ddeddf Addysg a gawn. Ac mae mesurau i fynd i'r afael â phroblemau tai wedi eu cyfyngu i ail dai a thai gwyliau, yn hytrach na chyflwyno Deddf Eiddo fyddai'n rheoleiddio'r farchnad tai, fel bod tai yn fforddiadwy ar gyflogau lleol ac felly yn galluogi pobl i aros yn eu cymunedau.
"Ein galwad ni felly yw ei bod hi'n bryd i'r Llywodraeth weithredu. Rydyn ni'n galw pobl o bob rhan o Gymru i ymuno â'r alwad trwy ddod i rali Nid yw Cymru ar Werth Llanrwst ar Ragfyr 17 ac i Rali'r Cyfri yng Nghaerfyrddin ar Ionawr 14."
Mae mwy o luniau i'w gweld yma
Mae manylion rali Nid yw Cymru ar Werth Llanrwst ar Ragfyr 17 i'w gweld yma