Newid i amserlen y safonau iaith - ymateb

 

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ymateb i’r newid i amserlen ymgynghori ar y safonau iaith newydd.

Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Bydd ein swyddogion yn gofyn am sicrwydd gan y Llywodraeth nad yw’r amserlen newydd yn golygu y bydd pobl yn aros yn hirach am y gwasanaethau Cymraeg gwell sydd eu hangen yn ddirfawr arnom. Ein ffocws yw sicrhau hawliau i’r cyhoedd er mwyn cryfhau’r Gymraeg a’r defnydd ohoni dros y blynyddoedd i ddod - megis yr hawl i weithgareddau hamdden ar ôl ysgol i blant yn y Gymraeg, yr hawl i ddysgu'r Gymraeg a'i defnyddio yn y gweithle, a'r hawl i gleifion dderbyn gofal iechyd yn yr iaith.

 

Bydd cynrychiolwyr o’r pedair plaid yn y Cynulliad yn bresennol i drafod y safonau newydd mewn cyfarfod cyhoeddus a gynhelir gan y Gymdeithas am 11:30 ar ddydd Llun yr Eisteddfod Genedlaethol.