Newidiadau cwricwlwm Donaldson - ymateb Gweinidog yn 'destun pryder'

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi mynegi pryder yn dilyn datganiad gan Lywodraeth Cymru heddiw am newidiadau arfaethedig i gwricwlwm ysgolion a'r ffordd mae'r Gymraeg yn cael ei dysgu.  

Wrth ymateb i'r datganiad, dywedodd Ffred Ffransis, llefarydd addysg Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Mae'n edrych fel bod y Gweinidog yn dal i geisio gwella system sy'n fethiant llwyr ac sy'n amddifadu mwyafrif helaeth ein pobl ifanc o'r Gymraeg. Yr hyn sydd angen iddo wneud yw gwrando ar yr hyn mae'r holl arbenigwyr yn dweud sef bod angen terfynu Cymraeg Ail Iaith a symud at drefn gyda pheth o addysg pawb yn gyfrwng Cymraeg. Dyna'r ffordd i sicrhau bod y Gymraeg yn iaith i bawb yn ein gwlad.

"Roedd geiriau'r Gweinidog dim ond ychydig wythnosau yn ôl yn awgrymu bod y Llywodraeth wedi gwrando ar ein pryderon a sylwadau'r arbenigwyr. Byddai'n destun pryder pe bai e'n gwneud tro-pedol ar ei eiriau e a geiriau'r Prif Weinidog drwy gicio'r mater i'r glaswellt hir unwaith eto." 

Daw'r newyddion wedi i'r cyn-Aelod Seneddol Llafur dros Aberafan Hywel Francis ddatgan ei gefnogaeth i ymgyrch Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Mae nifer fawr o arbenigwyr addysg a mudiadau eraill hefyd wedi galw ar i'r Llywodraeth sicrhau bod y Llywodraeth yn gweithredu argymhellion yr Athro Sioned Davies i symud at addysg Gymraeg i bob plentyn. Ymysg cefnogwyr yr ymgyrch mae David Crystal, Athro mewn Ieitheg Prifysgol Bangor ac awdur Cambridge Encyclopedia of Language, yr undeb athrawon UCAC, a Gethin Lewis, cyn Brifathro a chyn ysgrifennydd Cenedlaethol N.U.T. Cymru.