Osian Jones i gael ei garcharu ar Dachwedd 6ed

osian-pwllheli-carchar.jpgMi fydd Osian Jones - trefnydd Cymdeithas yr iaith yn y gogledd - yn mynd gerbron Llys Ynadon Pwllheli ar Dachwedd y 6ed am 9.30 y bore, lle bydd yn cychwyn ar ei gyfnod o 28 diwrnod yn y carchar am ei weithred yn erbyn cwmnïau Boots, Superdrug, Matalan a PC World.Gweithredodd Osian drwy beintio sloganau a gosod sticeri ar siopau Boots, Superdrug, Matalan a PC World, a oedd yn datgan nad oedd ei hawliau ieithyddol ef yn cael eu parchu o gwbl yn y siopau yma, yn galw am Fesur Iaith cyflawn sy'n cynnwys y sector breifat, ac yn cyfathrebu'r neges fod y Gorchymyn Iaith fel y mae yn rhy gul, ac yn rhwystro ffordd pobl Cymru at eu hawliau i'r Gymraeg.

Cafodd Osian Jones ddedfryd o fis o garchar wedi ei ohirio gan Lys Ynadon Pwllheli nol ym mis Awst 2009. Penderfynodd Ynadon Pwllheli roi rhyddhad amodol iddo, a gorchymynnwyd iddo dalu £200 o gostau Llys am y gwrandawiad, ond dywedodd Osian wrth yr Ynadon ar y pryd na fyddai'n talu unrhyw ddirwy na chostau. O ganlyniad rhoddodd yr Ynadon 28 diwrnod o garchar iddo os na fyddai'n talu o fewn 28 diwrnod gostau a hefyd dirywion am ei weithredoedd blaenorol yn yr un ymgyrch, sy'n dod i gyfanswm o £1,100.Dywedodd Osian ar y pryd:"Rwy'n falch bod Ynadon Pwllheli wedi dangos cefnogaeth trwy roi rhyddhad heddiw. Ond rwyf wedi esbonio na fyddai'n talu'r costau na'r dirywion blaenorol ac felly byddaf yn derbyn y ddedfryd o 28 diwrnod o garchar."Yn y Llys, rhybuddiodd Osian Jones y Gweinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones, a gweddill Llywodraeth y Cynulliad, fod yr amser yn prinhau i fedru trosglwyddo'r pwerau dros y Gymraeg i Gymru cyn yr etholiad nesaf. Dywedodd fod y Gweinidog Treftadaeth yn euog o beidio gwneud mwy i sicrhau Gorchymyn eang a fyddai'n datganoli grymoedd llawn dros y Gymraeg i Gymru, a bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn euog o rwystro taith y Gorchymyn. Dywedodd:"Rydym yn siomedig gyda'r hyn sy'n cael ei gynnig yn y Gorchymyn Iaith gan y Gweinidog Treftadaeth ar hyn o bryd. Mae Alun Ffred Jones yn deall yn iawn sefyllfa fregus yr iaith Gymraeg, ac felly mae cyfrifoldeb mawr arno i weithredu'n bositif o blaid y Gymraeg. Yr her iddo yw deddfu er mwyn gwneud gwahaniaeth fel y mae deddfu wedi gwneud gwahaniaeth mewn meysydd eraill o anghydraddoldeb."Cyn bydd modd i'r Cynulliad basio Mesur Iaith Cyflawn, rhaid i'r pwerau dros yr iaith Gymraeg gael eu datganoli i Gymru trwy'r broses Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol. Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar Alun Ffred Jones i ehangu sgôp y Gorchymyn Iaith, er mwyn datganoli'r pwerau llawn dros y Gymraeg o Lundain i Gymru. Ychwanegodd Osian Jones:"Cafodd tystiolaeth ddiamheuol ei roi gerbron Pwyllgorau yn y Cynulliad a San Steffan o'r angen i drosglwyddo pwerau llawn dros y Gymraeg i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae'r cyfnod trafod wedi dod i ben, mae'n hen bryd yn awr i Alun Ffred weithredu!"