Mae tri ymgyrchydd wedi chwistrellu paent ar swyddfeydd Llywodraeth Cymru yn Aberystwyth y bore yma gan ddweud bod diffyg gweithredu’r Prif Weinidog mewn ymateb i ganlyniadau’r Cyfrifiad wedi eu hysgogi i weithredu.
Paentiodd yr ymgyrchwyr slogannau megis ple dros “Addysg Gymraeg i Bawb” ar wal adeilad Llywodraeth Cymru yn y dref am tua chwarter i wyth o'r gloch heddiw (Dydd Llun, Mai 12). Mae'r brotest yn rhan o ymgyrch ehangach y Gymdeithas sy'n rhoi pwysau ar Llywodraeth Lafur Cymru i weithredu ar frys dros y Gymraeg, yn dilyn cwymp yn nifer siaradwyr y Gymraeg. Mae aelodau Cymdeithas yr Iaith yn galw ar y Llywodraeth i ymgorffori 6 phwynt sylfaenol yn ei pholisïau, megis addysg Gymraeg i bawb, tegwch ariannol i'r iaith, a threfn gynllunio newydd er budd ein cymunedau.
Meddai Sioned Hâf, is-gadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Nid dros nos bydd colli’r iaith ond dros blynyddoedd a degawdau. Mae’r Cyfrifiad diweddaraf yn dangos dirywiad difrifol yn y niferoedd o defnyddwyr y Gymraeg - arwydd y gallwn ni fel cenedl golli rhan ganolog o’n hetifeddiaeth dros y degawdau nesaf. Mae’n ymddangos mai dim ond trwy anufudd-dod dinesig mae bosib i ni gael ymateb i’r argyfwng yma gan ein Llywodraeth. Rydym yn benderfynol nad ein cenhedlaeth ni fydd yn caniatáu dirywiad yr iaith - a dyma yw ein pwrpas ni fel ymgyrchwyr heddiw - i wneud safiad ac i herio Carwyn Jones unwaith eto.”
Ychwanegodd: “Yn debyg i ni - mae Carwyn Jones wedi hen gydnabod ei ofidion am gyflwr yr iaith. Yn wahanol i ni - mae’n dangos anhawsterau mawr wrth feddwl sut i gyflawni strategaeth i sefydlogi’r iaith. Mae wedi methu dinasyddion Cymru yn yr ystyr hwn. Rydyn ni wedi llunio strategaeth sy’n mynd i’r afael â’r argyfwng hwn. Yr oll rydyn ni’n gofyn yw bod Carwyn a’r Llywodaeth Lafur yma yn dangos arweiniad sydd yn adlewyrchu difrfidoldeb sefyllfa bresennol y Gymraeg. Gydag ymgyrchu cadarnhaol ac ewyllys gwleidyddol, gallwn ni newid tynged yr iaith, a sicrhau ei bod yn tyfu dros y blynyddoedd i ddod. Ond mae’r dewrder angenrheidiol ar goll, mae angen i’r Llywodraeth gymryd camau mawr a dewr er mwyn sicrhau dyfodol gynaliadwy a theg i’r iaith Gymraeg. Dyma sydd wedi dod â ni allan fel grŵp heddi i brotestio.”
Ym mis Hydref 2013, cyhoeddwyd casgliadau'r Gynhadledd Fawr – ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar sefyllfa'r iaith yn dilyn canlyniadau argyfyngus y Cyfrifiad – ymysg y prif argymhellion roedd: cynyddu'r buddsoddiad ariannol yn y Gymraeg yn gyffredinol; newidiadau radical i addysg Gymraeg ail iaith; a newidiadau i'r gyfraith gynllunio. Yn lle, ym mis Tachwedd, cyhoeddodd y Prif Weinidog y byddai'n lansio ymgyrch i annog pobl i ddefnyddio eu Cymraeg bum gwaith y dydd. Doedd dim un gair am y Gymraeg ym Mil Cynllunio drafft y Llywodraeth.
Straeon yn y Wasg: