Paid gorfodi Seisnigrwydd ar bawb Tony!

Seisnigrwydd Tony BlairMae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ymosod ar sylwadau Tony Blair ar aml-ddiwylliannedd ym Mhrydain, a'i alwad ar i leiafrifoedd yn y wlad intigreiddio.

Dywedodd Dafydd Lewis ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Mae gan Tony Blair wyneb yn dweud y fath beth pan gofiwn mai'r Saeson yw'r bobl waethaf yn y byd am intigreiddio pan fyddant yn byw mewn gwledydd eraill. Ewch i Ffrainc, Sbaen neu Gymru ac fe welwch pa mor amharod ydynt i doddi i'r gymdeithas leol. Mae Blair yn amlwg am orfodi gwerthoedd Seisnig ar bawb ond nid dyna'r ffordd i ennill harmoni cymdeithasol ym Mhrydain."