Fe wnaeth cefnogwyr y Gymraeg yng Nghaerdydd yn dathlu newid arwydd gorsaf tren yng Caerdydd drwy gael parti o flaen yr orsaf yr wythnos yma (Dydd Iau, 1af o Hydref).
Wrth adnewyddu gorsaf tren Heol y Frenhines yng nghanol y ddinas, gosodwyd arwydd uniaith Saesneg ar ben y tô. Ers hynny, mae aelodau lleol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cynnal protest ynghyd ag ysgrifennu nifer o lythyrau at wleidyddion a Network Rail yn erbyn yr arwydd gan honni ei fod yn groes i statws swyddogol y Gymraeg. Dros y dyddiau diwethaf, mae’r arwydd wedi cael ei dynnu lawr, ac, mewn gohebiaeth ddiweddar, dywedodd Comisiynydd y Gymraeg wrth yr ymgyrchwyr y bydd arwydd Cymraeg yn cael ei godi erbyn y 1af Hydref.
Dywedodd Carl Morris, Cadeirydd Cell Cymdeithas yr Iaith yng Nghaerdydd:
“Rydym wrth ein bodd bod ein hymgyrch wedi dwyn ffrwyth a bod hi’n ymddangos bod yr arwydd yn cael ei newid i fod yn Gymraeg. Serch hynny rhaid i mi ofyn y cwestiwn i’m hyn, pam oes rhaid i ni brotestio am y pethau mwyaf sylfaenol?
“Mae’r newid arwydd yma yng ngholeuni’r sefyllfa gyda Safonau’r Gymraeg newydd ar hyn o bryd er yn galonogol, yn peri gofid i ni. Mae bron pum mlynnedd bellach ers i ddeddfwriaeth iaith gael ei basio ac mae’r gobaith am hawliau iaith yn ein bywyd bob dydd yn pylu. Mae’r Comisiynydd wedi cymryd nifer helaeth o gyrff arwyddocaol, gan gynnwys Network Rail, allan o’r safonnau. Os nad oes gorfodaeth statudol i’r corff yma weithredu yn Gymraeg sut all hi sicrhau hawliau iaith i bawb sydd yn byw yng Nghymru?
"Mae’n glir ers degawdau nad oes modd sicrhau newid digonol a pharhaol heb ddyletswyddau statudol. Mae’n hen bryd i’r Comisiynydd a Llywodraeth Cymru weithredu.”