Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cynnal piced y tu allan i Swyddfa Bost Aberystwyth heddiw (14 Hydref) yn dilyn cwynion gan ei haelodau a’i chefnogwyr am ddiffyg gwasanaethau Cymraeg yno.
Yn sgil cwynion am y gwasanaeth, cafodd rhai cwsmeriaid eu cyfeirio at swyddfeydd post cyfagos er mwyn cael gwasanaeth cyfrwng Cymraeg. Mae Cymdeithas yr Iaith o’r farn nad yw hyn yn ddigonol, gan gyfeirio at Fesur Iaith 2011 sy’n sefydlu bod y Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru a bod gan bawb y rhyddid i ddefnyddio’r Gymraeg.
Dywedodd Sion Jobbins, sydd wedi profi annawsterau wrth geisio derbyn gwasanaeth Cymraeg:
"Dydy hyn ddim yn fater yn erbyn unigolion, mae'n egwyddor y dyliau staff sefydliad sy'n fonopoli gwladol fel Swyddfa'r Post, ddeall peth geiriau syml Cymraeg ac yn enwedig rhai sylfaenol yn eu busnes. Dydw i ddim hyd yn oed yn disgwyl sgwrs Gymraeg. Dydy ddim yn ormod i ddisgwyl i aelod staff ddeall rhyw 10 gair Cymraeg ac i allu parhau gyda prynu llyfr stampiau yn y Gymraeg. Basai rhywun yn gobeithio y byddai aelod staff yn ddigon parchus a chwilfrydig i ddeall Cymraeg syml iawn gan gwsmer sy'n talu am wasanaeth."
Anfonodd Gymdeithas yr Iaith lythyr at Swyddfa’r Post fis Medi. Ynddo, mynnodd y mudiad bod Swyddfa’r Post yn codi arwyddion gwbl ddwyieithog, annog staff i wneud mwy o ddefnydd o’r Gymraeg gyda chymorth Swyddfa’r Post, bod ffurflenni Cymraeg mor amlwg ac mor hawdd i’w derbyn â rhai Saesneg, a bod cwsmeriaid sy’n dewis defnyddio’r Gymraeg yn cael eu trin â pharch. Mae’r Gymdeithas yn dal i aros am ymateb.
Dywedodd Siân Howys, Cadeirydd Grŵp Hawl i’r Gymraeg Cymdeithas yr Iaith:
“Mae’r driniaeth o’r iaith gan Swyddfa’r Post yn gwbl annerbyniol- mae angen iddyn nhw ateb am y diffygion difrifol hyn. Ond mae angen i Lywodraeth Cymru weithredu hefyd - ers 2011, mae gan Weinidigion Cymru’r grym i osod dyletswyddau iaith statudol ar y cwmni.
“Chwedeg mlynedd ers protest gyntaf Cymdeithas, i fynnu gwasanaeth Cymraeg yn Swyddfa’r Post Aberystwyth rydym yn galw ar y Llywodraeth i gymryd camau cadarn ar frys fel gall pobl ar lawr gwlad gael hawliau iaith sylfaenol a derbyn gwasanathau teg gan gwmni enfawr Swyddfa’r Post o’r diwedd.”