Picedu yn erbyn Trafnidiaeth Cymru oherwydd diffyg gwasanaethau Cymraeg

Bydd ymgyrchwyr yn cynnal cyfres o bicedi ledled y wlad heddiw (dydd Sadwrn, 12fed Ionawr) yn erbyn y gwasanaeth trên newydd, Trafnidiaeth Cymru, gan fod cyn lleied o wasanaethau ar gael yn Gymraeg.

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi derbyn degau o gwynion yn erbyn y corff, gan gynnwys rhai am wefan tocynnau uniaith Saesneg, cyhoeddiadau sain uniaith Saesneg ar y trenau, ap tocynnau newydd uniaith Saesneg a pheiriannau hunan-wasanaeth nad ydynt yn gweithio’n llawn yn Gymraeg. Yn ôl Comisiynydd y Gymraeg, fe ddylai’r cwmni Keolis Amey, sy’n rhedeg y fasnachfraint newydd, fod wedi bod yn cydymffurfio â’r Safonau a hynny o’r diwrnod cyntaf iddynt redeg y gwasanaeth yn ôl ym mis Hydref y llynedd.

Cynhelir picedi yng ngorsafoedd Caerdydd Canolog, Abertawe, Caerfyrddin, Aberystwyth, Machynlleth a Bangor. Yn siarad cyn mynd draw i orsaf trên Machynlleth, dywedodd David Williams, is-gadeirydd ymgyrchoedd, Cymdeithas yr Iaith:

“Mae diffygion y cwmni trên newydd mor wael o ran y ddarpariaeth Gymraeg, mae bron yn ddi-gynsail fel gwasanaeth cyhoeddus. Rydyn ni’n ymwybodol o gwynion am nifer fawr o wasanaethau o bob math nad ydyn nhw ar gael yn Gymraeg, neu sy’n trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. Oherwydd difrifoldeb y sefyllfa, rydyn ni wedi gofyn i Gomisiynydd y Gymraeg ddefnyddio’r pwerau eang sydd ganddi hi i gynnal ymchwiliad cyffredinol.

“Mae’n siom aruthrol bod Llywodraeth Cymru, Trafnidiaeth Cymru a’r cwmni dan gytundeb iddynt wedi methu â sicrhau bod y gwasanaethau yma yn cael eu darparu yn Gymraeg er gwaetha’r holl amser paratoi oedd ganddyn nhw cyn i’r cytundeb newydd ddechrau. Dylen nhw fod wedi cynllunio i ddarparu’r gwasanaethau hyn yn iawn.”