Mynegodd ymgyrchwyr eu siom heddiw ar ôl i Gyngor Gwynedd bleidleisio dros barhau'r broses statudol ar gyfer cau Ysgol y Parc, ger y Bala.Daeth y penderfyniad wedi protest tu allan i swyddfeydd y Cyngor, gan wyth deg o brotestwyr gan gynnwys plant a rhieni'r ysgol, oedd yn gwrthwynebu cynlluniau'r cyngor. Yn eu plith roedd nifer o aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a orymdeithiodd saith deg milltir o Dryweryn i Gaernarfon ers Dydd Sul fel rhan o'r protest. Mae'r mudiad yn ymgyrchu o blaid cadw'r ysgol ar agor ac arbed arian trwy ffederaleiddio ysgolion lleol yn lle.
Meddai Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Menna Machreth:"Mae'r niferoedd yn y brotest heddiw yn dangos yn glir gwrthwynebiad y gymuned i'r cynlluniau. Byddwn ni, a'r gymuned leol, yn brwydro yn erbyn hyn bob cam o'r ffordd. Mae'n anhygoel fod Cyngor Gwynedd o bawb am danseilio cymuned Gymraeg fywiog. Mae bellach yn glir bod canlyniad y frwydr dros y Parc o bwys i bob cymuned Gymraeg""Bydd cyfle i bawb ddangos cefnogaeth i'r Parc mewn G?yl a gynhelir yn y pentre' ar ddydd Llun G?yl Banc Awst. Bydd hon yn ?yl gymunedol Gymraeg gyda drama, chwaraeon ac adloniant. Eisoes mae nifer o sêr - gan gynnwys Gai Toms - wedi ymrwymo i gymryd rhan.."Cynhelir G?yl ym mhentref yr ysgol ar Ddydd Llun G?yl Banc Mis Awst (30ain Awst) fel rhan o'r ymgyrch i gadw'r ysgol ar agor.