Protest Iaith Caernarfon: diffyg gweithredu’r Llywodraeth

Mae ymgyrchwyr iaith wedi gosod sticeri ar swyddfeydd y Llywodraeth yng Nghaernarfon y bore yma gan alw ar i’r Prif Weinidog Carwyn Jones fabwysiadu newidiadau polisi mewn ymateb i ganlyniadau’r Cyfrifiad.

Gosododd yr ymgyrchwyr sticeri, gyda'r slogan “Llywodraeth Cymru - gweithredwch” arnyn nhw, dros ffenestri swyddfa'r Llywodraeth yn y dref tua wyth o'r gloch heddiw (Dydd Mawrth, Mai 20). Mae aelodau Cymdeithas yr Iaith yn galw ar y Llywodraeth i ymgorffori 6 phwynt sylfaenol yn ei pholisïau, megis addysg Gymraeg i bawb, tegwch ariannol i'r iaith, a threfn gynllunio newydd er budd ein cymunedau. Mae'r brotest yn rhan o ymgyrch ehangach y Gymdeithas sy'n rhoi pwysau ar Llywodraeth Lafur Cymru i weithredu ar frys dros y Gymraeg, yn dilyn cwymp yn nifer siaradwyr y Gymraeg.

Meddai Cen Llwyd, llefarydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Ymhell dros flwyddyn ers canlyniadau’r Cyfrifiad, mae’n hen bryd i’r Llywodraeth gyflwyno newidiadau polisi a fydd yn galluogi pawb yn ein gwlad i fyw yn Gymraeg. Rydyn ni’n galw ar y Llywodraeth i weithredu o ddifrif mewn chwe maes penodol, er mwyn sicrhau bod yr iaith yn tyfu. Gydag ewyllys gwleidyddol gall pethau newid, ond hyd yn hyn mae ymateb y Llywodraeth wedi bod yn chwerthinllyd. Ni fydd camau bach yn ymateb digonol i’r argyfwng - mae angen cymryd camau uchelgeisiol ym meysydd addysg, cynllunio ac ariannu. Gobeithio y bydd ein protestiadau yn eu sbarduno i weithredu .”

Ym mis Hydref 2013, cyhoeddwyd casgliadau'r Gynhadledd Fawr – ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar sefyllfa'r iaith yn dilyn canlyniadau argyfyngus y Cyfrifiad. Ymysg y prif argymhellion roedd: cynyddu'r buddsoddiad ariannol yn y Gymraeg yn gyffredinol; newidiadau radical i addysg Gymraeg ail iaith; a newidiadau i'r gyfraith gynllunio. Yn lle hynny, ym mis Tachwedd, cyhoeddodd y Prif Weinidog y byddai'n lansio ymgyrch i annog pobl i ddefnyddio eu Cymraeg bum gwaith y dydd. Doedd dim un gair am y Gymraeg ym Mil Cynllunio drafft y Llywodraeth.