Ymlaen o’r Gorffennol: Ymgyrchoedd ddoe yn berthnasol heddiw

I nodi chwe deg mlwyddiant ein protest gyntaf byddwn ni'n cynnal taith gerdded o leoliadau nodedig yn ein hanes yn Aberystwyth ddydd Sadwrn yma.
Cynhaliwyd y brotest gyntaf yn enw’r mudiad ar 2 Chwefror, 1963.

Bydd y daith yn dechrau wrth Bont Trefechan, lle bydd Aled Gwyn, un o brotestwyr gwreiddiol y bont yn dweud gair.

Yn siarad cyn y daith gerdded, dywedodd Aled Gwyn:
"Roedd cyffro yng Nghymru ar ddechrau’r chwedegau yn sgil sarhad Tryweryn, darlith Tynged yr Iaith, trafodaethau yn Ysgol Haf Plaid Cymru ym 1962, ac arweiniodd hynny, ynghyd â safiad rhai unigolion, at yr awydd i weithredu dros ennill ei lle i’r Gymraeg a chynyddu’r defnydd ohoni. Sylweddolwyd fod ysbryd gweithredu wedi gwawrio yng Nghymru, a diolch byth, cynhaliwyd y momentwm."

Bydd y daith yn mynd heibio hen Swyddfa'r Post, yr hen Orsaf Heddlu, hen safle Llys yr Ynadon a lleoliad swyddfeydd y Gymdeithas dros y blynyddoedd.

Meddai Eryl Owain, fydd yn siarad am ei gyfnod gyda'r Gymdeithas yn ystod y saithdegau:
"Wrth edrych yn ôl i ddiwedd y chwedegau daw addasiad o eiriau Wordsworth am y Chwyldro Ffrengig i'm meddwl 'Gwych oedd bod yn fyw y bore hwnnw a nef yn wir oedd bod yn ifanc' a braint (a hwyl) oedd gallu bod yn rhan o gyffro gobeithiol y cyfnod yng Nghymru. Roedd mwy o begynnu barn bryd hynny a gelynion y Gymraeg yn fwy amlwg ac yn dargedau hawdd i ymosod arnynt – er enghraifft, yr arwyddion ffyrdd ym mhob cymuned yn ein hatgoffa o israddoldeb y Gymraeg ac yn cynnig ymgyrch amlwg a syml y gallai cannoedd fod yn rhan ohoni."

Yn ogystal ag edrych ’nôl a nodi pwysigrwydd y brotest gyntaf, bydd y cyfranwyr yn ein hatgoffa bod gwaith i'w wneud eto:

Ychwanegodd Aled Gwyn:
"Gallai canlyniadau’r cyfrifiad ein digalonni, ond mae arwyddion calonogol ar hyn o bryd bod gennym nifer o arweinwyr glew a mudiadau goleuedig mewn nifer o feysydd allweddol a all wneud gwahaniaeth a rhoi hwb i’n hyder. Drwy ymdrech pob un gallwn gefnu yn llwyr ar daeogrwydd a magu asgwrn cefn. Mae’n rhaid cynnal yr ysbryd hwn a dal i ddweud ein stori."

Un o’r cyfranwyr ddydd Sadwrn sydd wedi bod yn weithredol yn y cyfnod diweddar yw cyn-gadeirydd y mudiad, Bethan Ruth. Meddai: "Roedd y brotest gyntaf dros hawliau iaith, ac er bod statws iaith swyddogol gan y Gymraeg erbyn hyn rydyn ni'n dal i orfod ymgyrchu dros hawliau iaith - yn enwedig yn y sector breifat. Yn yr un modd, roedd y frwydr dros sianel deledu yn frwydr i gael y Gymraeg ar y cyfrwng diweddaraf, ac mae ein hymgyrch am Fenter Ddigidol Gymraeg yn frwydr i gael y Gymraeg ar y cyfryngau diweddaraf heddiw.

"Rhaid i ni ddathlu llwyddiannau'r chwe deg mlynedd diwethaf a thalu teyrnged i'r protestwyr gwreiddiol a osododd y seiliau - ac adeiladu ar eu gwaith trwy barhau i ymgyrchu."

Pwyswch yma i wylio cyfweliad gyda Llinos Dafis, un o'r protetwyr oedd ar Bont Trefechan.
Pwysywch yma i wrando ar gyfweliad Geraint Jones, un o'r protetwyr oedd ar Bont Trefechan.