“Pryd fydd y gwaith yn dechrau?” - Neuadd Pantycelyn

Pryd fydd y gwaith yn dechrau?” yw cwestiwn myfyrwyr ac aelodau Cell Pantycelyn wedi i Gyngor y Brifysgol gymeradwyo adroddiad i ail-agor Pantycelyn ar ôl adnewyddu’r adeilad.

Dywedodd Elfed Wyn Jones, Cadeirydd Cell Pantycelyn Cymdeithas yr Iaith: “Mae'r adroddiad sydd wedi ei dderbyn heddiw yn nodi bydd y neuadd yn ail-agor ym mis Medi 2019 felly rydyn ni'n disgwyl gweld cynllun ar gyfer y gwaith adnewyddu yn fuan, a bod y gwaith yn dechrau cyn gynted â phosibl. Mae digon o fyfyrwyr wedi colli cyfle i aros yn neuadd Pantycelyn felly gorau po gyntaf bydd y gwaith yn dechrau. Fe wnaethon ni ddweud fod yr adroddiad yn rhoi Pantycelyn mewn sefyllfa llawer gwell nag oedd hi llynedd. Gan fod y Cyngor wedi derbyn yr adroddiad yma, gwella'n fwy fydd sefyllfa'r neuadd a chymdeithas Gymraeg myfyrwyr Aberystwyth.”

Mae myfyrwyr er hynny wedi codi pryderon am gost aros yn y neuadd yn y gorffennol, gan y gallai'r neuadd fod dipyn drytach na neuaddau eraill: http://cymdeithas.cymru/newyddion/ymgyrchu-wedi-talu-ffordd

Y stori yn y wasg:

Angen i'r gwaith ddechrau 'cyn gynted â phoisibl' - golwg360 30/06/16