Pryderon am Neuadd Pantycelyn

Mewn llythyr at aelodau Cyngor Prifysgol Aberystwyth, a fydd yn cwrdd i drafod dyfodol Neuadd Pantycelyn, mae Cell Pantycelyn wedi galw ar y Cyngor i beidio cau ar y Neuadd.

Mae testun y llythyr isod.

I gefnogi ymgyrch Pantycelyn:

  • Cyfrannwch yn ariannol at yr ymgyrch drwy bwyso yma
  • Dilynwch yr ymgyrch ar Twitter – @achubpantycelyn a facebook - https://t.co/4WlUfmLibq ac ail-drydar a rhannu negeseuon.
  • Dewch i rali ar y 10fed o Fehefin: Bydd siaradwyr ym maes parcio Pantycelyn a gorymdaith i gyfarfod Senedd y Brifysgol. Mwy o fanylion i ddilyn.
  • Bydd myfyrwyr yn ymprydio am gyfnod yn arwain at gyfarfod y Cyngor ar yr 22ain o Fehefin. Gall unrhyw un ymuno â'r ympryd – yn gyn-breswylwyr a chefnogwyr. Bydd cyhoeddi rhestr o enwau fydd yn ymprydio yn ei hun yn rhoi pwysau ar y Brifysgol felly cysylltwch gyda Eiri Angharad i ymuno â'r ympryd - eas13@aber.ac.uk

Annwyl aelodau Cyngor Prifysgol Aberystwyth

Mae bwriad y Brifysgol i gefnu ar ei haddewid ynghylch dyfodol Pantycelyn yn peri pryder mawr i ni. Galwn arnoch i wrando ar lais y myfyrwyr, a chadw Pantycelyn ar agor fel neuadd breswyl cyfrwng Cymraeg.  

Ni ellir dadlau nad yw Pantycelyn yn unigryw. Hi yw’r unig neuadd breswyl benodedig i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith yn y Brifysgol. Galluoga hyn i fyfyrwyr, rhugl a dysgwyr, fyw mewn cymuned uniaith Gymraeg, os ydynt yn dymuno gwneud hynny; ac mae strwythur yr adeilad yn ei gwneud hi'n hawdd i fyfyrwyr gymdeithasu, yn wahanol i fflatiau. 

Pantycelyn yw canolbwynt cymdeithasol y gymuned Gymraeg yn y Brifysgol. Os caeir y neuadd, diddymir un o'r ychydig gymunedau Cymraeg byw sydd ar ôl, gan anrheithio bywyd cymunedol Cymraeg yn y Brifysgol. Byddai'r gymuned Gymraeg naturiol yn cael ei chwalu petai Pantycelyn yn cau. 

Rydym yn cydnabod bod angen gwaith atgyweirio ar yr adeilad, ond nid ydym yn deall pam na fuddsoddwyd yn yr adeilad tan nawr. Petai'r Brifysgol wedi gwario ar yr adeilad yn ôl yr angen ar hyd y blynyddoedd ni fuasai'r adeilad mewn cyflwr cynddrwg nawr. 

Dywed Adroddiad Gweithgor Pantycelyn mai'r buddsoddiad cyfalaf mwyaf y byddai ei angen er mwyn ailddatblygu Pantycelyn fel llety yw £9m, a gellir ei wneud am £5.5m. Nid yw hyn yn ddim i'w gymharu â'r £45m y mae'r Brifysgol wedi ei wario ar Fferm Pen-glais. 

Dywed yr Adroddiad hefyd mai £125,000 yn unig sydd angen ei wario er mwyn gwneud yr adeilad yn ddiogel i'w agor ar gyfer 2015/16. Pa reswm sydd, felly, na ellir gwneud y gwaith angenrheidiol dros y tri mis nesaf tra bo'r adeilad yn wag? 

Trwy agor yr adeilad y flwyddyn nesaf byddai'r Brifysgol yn derbyn £715,000 gan breswylwyr, gan gymryd y byddai'r gost a'r niferoedd yr un fath ag yr oedd rhwng 2013 a 2014. Gan fod nifer helaeth o fyfyrwyr Cymraeg yn dewis dod i Brifysgol Aberystwyth oherwydd Pantycelyn, byddai cau y neuadd yn golygu bod llai o fyfyrwyr yn dod i'r Brifysgol, a dichon y byddai hyn yn golygu cwymp pellach i'r Brifysgol yn Nhabl Cynghrair Prifysgolion Prydain.   

 

Ymhellach, rydym yn cael ar ddeall y bydd swyddfeydd yn symud i'r adeilad fis Medi. Sut gall yr adeilad fod yn ddigon diogel i gynnal swyddfeydd ar y llawr gwaelod, ond nid yw'n ddiogel i breswylwyr aros yn yr ystafelloedd gwely ar y llawr gwaelod, a sut gellir sicrhau bod yr adeilad yn ddiogel i'r preswylwyr sy'n byw yno ar hyn o bryd? 

Hyd y gwyddys, nid oes gan y Brifysgol nemor ddim cynlluniau pendant i gynnal a datblygu gwasanaethau preswyl a chymunedol cyfrwng Cymraeg yn sgil cau Pantycelyn, er eu bod yn honni mai dros dro yn unig y byddai Pantycelyn ar gau. O gofio nad yw Fferm Pen-glais wedi agor i gyd o hyd, sut gallwn ni fod yn sicr y bydd Pantycelyn yn ailagor o gwbl?  

Nodir i ddifrod gael ei wneud i gyfarpar diogelwch tân dros y flwyddyn ddiwethaf. Dichon na fyddai hyn wedi digwydd pe bai'r camerâu CCTV yn weithredol, a phe na bai'r Brifysgol wedi cael gwared â'r porthorion a oedd yn y dderbynfa 24/7 tan y llynedd.    

Petai Pantycelyn yn cael ei gau, byddai'r Brifysgol yn agored i achosion cyfreithiol y gall myfyrwyr presennol a darpar fyfyrwyr sydd eisoes wedi talu blaendal am eu lle yn y Neuadd yn 2015/2016 eu dwyn yn erbyn y Brifysgol. Nid yw'r sefyllfa bresennol yn rhoi darlun da o'r Brifysgol i ddarpar fyfyrwyr. Yn Eisteddfod yr Urdd eleni daeth darpar fyfyrwyr a'u rhieni atom i arwyddo'r ddeiseb i gadw Pantycelyn ar agor.  

Nodwn fod hyn yn digwydd yng nghyd-destun penderfyniadau eraill a fydd yn niweidiol i genhadaeth y Brifysgol yn unol â'i Siarter sefydliadol a esyd fod Prifysgol Aberystwyth i fod i ‘roi sylw arbennig, gan weithredu ar ei phen ei hun neu ar y cyd ag eraill, i anghenion addysgol Cymru, gyda golwg ar yr iaith Gymraeg a diwylliant, datblygiad economaidd a thraddodiadau cymdeithasol Cymru.’   

Erfyniwn arnoch i bleidleisio yn erbyn argymhelliad y Pwyllgor Cyllid a Strategaeth i gau Neuadd Pantycelyn, ac i ofyn am amserlen bendant i wneud y gwaith adnewyddu.