‘Mae trawsnewidiad y gyfundrefn dai ar y gorwel’, dyna oedd neges Cymdeithas yr Iaith mewn rali o flaen y Senedd ddydd Sadwrn 13 Tachwedd.
Daeth pobl o bob rhan o Gymru i Gaerdydd i alw am weithredu brys er mwyn mynd i’r afael ag anghyfiawnder tai.
Ymysg galwadau’r ymgyrchwyr yr oedd gofyn am Ddeddf Eiddo i reoli prisiau tai a rhent fel eu bod fforddiadwy i bobl sy’n byw ar incymau lleol. Daeth dros fil i'r rali ar risiau’r Senedd lle bu Rhys Tudur o’r ymgyrch Hawl i Fyw Adra ac Ali Yassine yn annerch y dorf.
Dywedodd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Mabli Siriol Jones:
“Mae pobl yn gweld anghyfiawnder y system tai a chynllunio yn eu bywydau bob dydd, ymhob rhan o’r wlad. Nid yw’n iawn bod yna rai gyda mwy nag un tŷ, tra bod eraill yn ddigartref.
“Mae’r dystiolaeth yn glir — boed hynny’r bobl sy’n gorfod dewis rhwng talu am wres neu rent; y bobl ifanc sy’n gorfod gadael eu cymuned i allu fforddio cartref; neu’r bobl sy’n gweld bywyd eu cymunedau yn edwino o ganlyniad i dai moethus sy’n aros yn wag am ran fwyaf y flwyddyn.
“Y farchnad rydd yw craidd y problemau Cymru-gyfan hyn, sy’n amlygu eu hunain mewn amryw o ffyrdd yn ein cymunedau. Ond canlyniad penderfyniadau gwleidyddol yw hyn, ac mae modd gwneud pethau’n wahanol. Rydyn ni wedi ennill o’r blaen, ac os tynnwn ni ynghyd fel cymunedau ac ymgyrchwn ni’n galed, gwelwn ni, yn hwyr neu’n hwyrach, gyfundrefn tai ac eiddo wedi’i thrawsnewid. Gyda’n gilydd mae’r grym gyda ni.”
Roedd y rali yn dilyn protestiadau yn Nhryweryn ym mis Gorffennaf eleni ac yn Nhrefdraeth fis diwethaf.
Ychwanegodd Ali Yassine:
“Dylai fod gan bawb yr hawl i gartref yn eu cymuned. Ond mae llywodraethau San Steffan a Chymru dros y degawdau wedi trin tai fel eiddo i wneud elw, yn lle cartrefi, a blaenoriaethu cyfalaf yn lle cymunedau. Mae’r canlyniadau wedi bod yn drychinebus i bobl gyffredin Caerdydd, Cymru, ein cymunedau a’r Gymraeg — ac maen nhw’n gwaethygu. Nid oes rhaid i’r sefyllfa fod fel hyn. Gyda’r camau polisi iawn, gallwn sicrhau cartref i bawb, a chymunedau cryf, Cymraeg ymhob rhan o’r wlad.”