Mae Cymdeithas yr Iaith wedi beirniadu Cyngor Sir Caerfyrddin am beidio cynnal asesiad o effaith eu strategaeth gynllunio am y blynyddoedd nesaf ar yr iaith ac ar gymunedau Cymraeg. Daw cyfnod ymgynghori ar y "Strategaeth a ffefrir" gan y Cyngor i ben Ddydd Gwener nesaf, yr 8ed o
Chwefror. Y strategaeth hon fydd sail y Cynllun Datblygu Lleol newydd a fydd yn rheoli datblygiadau yn Sir Gaerfyrddin hyd 2033 (sydd i'w weld yma).
Dywed Bethan Williams, Ysgrifennydd Rhanbarth Caerfyrddin-Penfro o Gymdeithas yr Iaith, "Bydd y strategaeth hon, sy'n destun i'r ymgynghoriad, yn penderfynu holl ddyfodol ein cymunedau lleol am y ddegawd nesaf a mwy. Eto i gyd, yma yn y sir lle bu'r dirywiad mwyaf o siaradwyr Cymraeg yn ôl y Cyfrifiad diwethaf, nid oes unrhyw asesiad o effaith y strategaeth ar yr iaith a chymunedau Cymraeg. Rhaid cynllunio'n awr ar gyfer y Gymraeg oherwydd y bydd unrhyw asesiad o effaith polisiau unigol ar yr iaith yn y dyfodol ond yn ymdrech i gyfyngu ar y difrod a fydd. Dylai cryfhau'r Gymraeg fod yn sail i'r straegaeth o'r cychwyn."
Ychwanegodd Bethan "Mae'r ddogfen ddrafft hon yn ymwybodol osod hybu mewnlifiad yn nod strategol gyda tharged o 10,000 o dai newydd - deirgwaith amcangyfri Llywodraeth Cymru o'r angen am 3000+ o dai newydd yn y sir. Y cyfiawnhad a roddir yn y strategaeth yw bod angen yr holl dai newydd er mwyn denu gweithwyr ar gyfer 5000 o swyddi newydd a fwriedir ar gyfer datblygiadau ansicr y Pentre Llesiant newydd yn Llanelli, a siopau mawr newydd yn Cross Hands ar yr union adeg mae siopau dan bwysau mawr. Er ei bod yn ymddangos fod y Cyngor wedi penderfynu o flaen llaw ar ei hoff strategaeth, galwn ar bobl i gysylltu â nhw erbyn dydd Gwener i ddangos cryfder teimladau."
Cred y Gymdeithas fod yr holl strategaeth yn seiliedig ar yr hen Gynllun Adfywio o 2015, ac ar uchelgeision Bargen Ddinesig Bae Abertawe. Barn y Gymdeithas yw mai'r farchnad fasnachol a chyfle elw i ddatblygwyr fydd yn penderfynu faint o'r miloedd o dai gaiff eu hadeiladu, ac y bydd y datblygiadau'n ddinistriol i gymunedau Cymraeg lleol.