Rhaid i Lywodraeth y Cynulliad weithredu cyn y Gyllideb nesaf

logoWAG.jpgAr drothwy'r ddadl ar dai fforddadwy a fydd yn cael ei gynnal yn y Cynulliad prynhawn yma, mae Cymdeithas yr Iaith wedi cysylltu a phob un o Aelodau'r Cynulliad yn tynnu eu sylw at gamau penodol y gall y llywodraeth eu cymryd i leddfu'r sefyllfa. Pwysleiswyd fod rhai camau y dylid eu cymryd erbyn cyllideb nesaf y Cynulliad.

Meddai Huw Lewis, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:"Mae yna rai camau penodol y dylid eu cymryd rhwng nawr a chyllideb nesaf y Cynulliad . Dylid sicrhau cynnydd yn yr arian a ddarperir ar gyfer y Cynllun Cymorth prynu. Yn ogystal dylid darparu digon o arian ar gyfer sefydlu'r 'Hawl i Rentu', Byddai gweithredu yn y meysydd hyn yn gam cadarnhaol tuag at gyllido dyfodol i'n cymunedau."Bydd Cymdeithas yr Iaith yn tynnu sylw pellach at y galwadau hyn trwy gynnal diwrnod lobio yn y Cynulliad ar ddydd Mercher, Hydref 15.Bydd ymgyrchu Cymdeithas yr Iaith dros y misoedd diwethaf ym maes tai a chynllunio yn cyrraedd uchafbwynt gyda'r rali fawr - Dyfodol i'n Cymunedau - a fydd yn cael ei gynnal yn Neuadd Undeb y Myfyrwyr, Caerdydd, ar ddydd Sadwrn Tachwedd 15, 2003. Ymhlith y rhai a fydd yn cymryd rhan bydd yr Athro Hywel Teifi Edwards, Alun ffred Jones AC a Leanne Wood AC.