Rhaid mynd at wraidd yr argyfwng tai

Rydyn ni wedi'n siomi ddybryd nad yw "Cais am dystiolaeth ar sicrhau llwybr tuag at Dai Digonol" y Llywodraeth yn mynd at wraidd y broblem dai yng Nghymru trwy reoleiddio'r farchnad dai gyda Deddf Eiddo.

Dywedodd Jeff Smith, Cadeirydd Grŵp Cymunedau Cynaliadwy Cymru y Gymdeithas:
"Mae tai yn cael eu trin fel asedau masnachol i wneud elw ohonyn nhw yn hytrach nag asedau cymdeithasol i ddarparu cartref. Dyna sydd wedi golygu bod prisiau tai a rhenti ymhell y tu hwnt i gyrraedd pobl ar gyflog lleol a'u gorfodi o'u cymunedau. Trwy beidio â chyfeirio o gwbl at Ddeddf Eiddo i reoleiddio'r farchnad dai mewn papur gwyn yn gofyn barn a chynigion am sicrhau tai digonol dydy'r Llywodraeth ddim yn mynd at wraidd y broblem - dim ond ymdrin â rhai symptomau.
"Croesawn y camau i reoli rhenti a sicrhau bod rhent yn fforddiadwy, ond symptomau yw'r rhain - fel gormodedd ail gartrefi - o'r broblem sylfaenol mai'r farchnad agored sy'n rheoli ein polisïau tai. Heb fynd at wraidd y broblem, ni fyddwn yn atal chwalfa ein cymunedau

"Bu miloedd yn rhan o'r ymgyrch ddiweddar am Ddeddf Eiddo gyflawn trwy ddod i ralïau ac ymateb i ymgynghoriadau, ond mae amser yn brin i ddatrys y broblem - i'n cymunedau ac i'r Llywodraeth, gan mai dwy flynedd sydd ar ôl o gyfnod y Senedd bresennol. Mae'n amlwg bod angen cynyddu'r pwysau felly galwn ar bobl o bob rhan o Gymru i ymuno â ni mewn cyfnod o weithredu uniongyrchol fydd yn arwain at rali dorfol ar ddydd Mercher yr Eisteddfod Genedlaethol."