Rhewi Cyllid S4C? Datganoli yw'r ateb

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ymateb i gynnig y BBC i rhewi ei gyfraniad ariannol i S4C tan 2022. 

Dywedodd Curon Wyn Davies, llefarydd darlledu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: 

"Ar yr ochr bositif, mae cyhoeddiad heddiw yn cynnig rhywfaint o sicrwydd ariannol am rai blynyddoedd. Ond, ar y llaw arall, mae toriadau llym eisoes wedi bod ac mae rhewi yn golygu bod rhagor o doriadau termau real ar y ffordd. Mae gwir angen cynllun sy'n mynd i adfer cyllideb i S4C i'r lefel cyn y dirwasgiad, nid drwy ddatganiadau fan hyn a fan draw gan y BBC yn Llundain ond drwy drafodaeth ddemocrataidd ac agored yng Nghymru. 

"Rydyn ni'n parhau i alw ar i'r Llywodraeth ail-sefydlu fformiwla ariannu mewn statud a fyddai'n cynnig sicrwydd go iawn, diogelu annibyniaeth y sianel ac yn galluogi S4C i ehangu i fod yn fwy na darlledwr un sianel yn unig. Cafodd S4C ei sefydlu o ganlyniad ymgyrchu hir gan bobl Cymru ac aberthodd nifer eu rhyddid drosti; nid lle swyddogion yn Llundain yw penderfynu ar ei dynged. Mae'n hen bryd i ddarlledu cael ei ddatganoli i Gymru. 

"Mae'r datganiad yn dod ar adeg rhyfedd: ble mae fe'n gadael adolygiad annibynnol y sianel mae Llywodraeth Prydain yn bwriadu ei gynnal flwyddyn nesa? Beth yw diben yr adolygiad os yw rhan o gyllideb y sianel eisoes wedi ei phennu gan y BBC?"