Rhybudd am effaith ad-drefnu ar bolisi iaith Gwynedd

Ni ddylai ad-drefnu llywodraeth leol beryglu polisi iaith Gwynedd, dyna yw prif neges Cymdeithas yr Iaith Gymraeg heddiw wrth iddyn nhw ymateb i gomisiwn a sefydlwyd i ystyried dyfodol cynghorau sir.

Yn yr ymateb i’r Comisiwn Gwasanaethau Cyhoeddus sydd yn edrych ar leihau nifer y cynghorau sir yn y wlad, dywed y grŵp pwyso y dylid sicrhau bod rhagor o gynghorau sir yn gweinyddu’n fewnol trwy’r Gymraeg megis Ynys Môn, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin. Ar hyn o bryd, Gwynedd yw’r unig awdurdod lleol lle mae’r holl waith mewnol yn digwydd trwy gyfrwng y Gymraeg.

Ymysg argymhellion eraill y Gymdeithas, dywed y mudiad bod angen: cryfhau ac adfywio democratiaeth yn enwedig ar lefel leol iawn megis cynghorau cymuned a’u rôl yn y system gynllunio; cywiro diffygion y system gynllunio a’i heffaith ar y Gymraeg gan ei seilio ar anghenion lleol; pwysigrwydd gwasanaethau lleol i hyfywedd cymunedau a’r Gymraeg; cryfhau hawliau gweithwyr i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg; a'r angen i ddelio â methiannau dirfawr awdurdodau i ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg.

Yn ei ymateb cynhwysfawr i’r Comisiwn medd y mudiad: “Er i ni anghytuno gyda natur y ddadl am ganoli gwasanaethau ... cydnabyddwn fod pwysau gwleidyddol anferth bellach dros uno awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill… Gofynnwn, os bydd penderfyniad i fynd ar hyd y trywydd hwnnw, y dylid … ystyried yr effaith ar y Gymraeg fel iaith gweinyddu mewn unrhyw newid; ni ddylai unrhyw newidiadau tanseilio polisi iaith Gwynedd.

“Dylai cyrff cyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, ddilyn esiampl Cyngor Gwynedd drwy symud at weinyddu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg. Wrth ystyried ad-drefnu llywodraeth leol, dylid sicrhau bod rhagor o awdurdodau lleol yn gweinyddu trwy gyfrwng y Gymraeg. Dylid sefydlu tasglu dan adain Comisiynydd y Gymraeg i symud y broses hon yn ei blaen.”

Ychwanegodd Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, a gafodd ei fagu ger Bethesda: “Mae’n hollbwysig bod y Comisiwn yn ystyried effaith unrhyw newidiadau ar y Gymraeg. Mae nifer o siroedd eisoes yn gorfodi eu staff sy’n medru’r Gymraeg i weithio trwy gyfrwng y Saesneg. Er bod canran uchel iawn o staff Cynghorau Ceredigion, Sir Gâr ac Ynys Môn yn medru’r Gymraeg, mae gorfodaeth arnynt i weithio yn Saesneg. Yn y rhan fwyaf o gyrff cyhoeddus mae diwylliant o wneud popeth yn Saesneg, gan gyfieithu i’r Gymraeg yn achlysurol. Er mwyn gwireddu hawl sylfaenol pawb i weithio ac i dderbyn gwasanaethau yn Gymraeg, mae’n rhaid symud at weinyddiaeth fewnol Gymraeg yn rhagor o sefydliadau.

“O edrych ar ganlyniadau’r cyfrifiad, gwelwn bod system Cyngor Gwynedd o weithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg wedi cael effaith cadarnhaol, a dylai ardaloedd eraill dilyn yr un fodel.

“Hefyd, mae yna broblemau difrifol gyda’r broses gynllunio. Dyw awdurdodau cynllunio ddim yn cymryd sylw o’r angen i asesu effaith iaith datblygiadau. Rydyn ni wedi argymell cryfhau pwerau cynghorau cymuned yn y broses, gan bod diffyg llais pobl leol yn y broses yn broblem ddifrifol. Rydym yn pwyleisio hynny yn ein Maniffesto Byw sydd yn cynnig llwybr tuag at gymdeithas sydd yn byw ei bywyd yn Gymraeg.”

Mae ymgynghoriad y Comisiwn yn dod i ben ar ddiwedd yr wythnos hon, ac mae’r mudiad yn annog eraill i ymateb er mwyn pwysleisio y dylai unrhyw newidiadau gryfhau defnydd mewnol cyrff o’r Gymraeg.

Ymateb llawn y Gymdeithas i'r ymgynghoriad