S4C: Gêm Bêl-Droed Cameron a'r BBC

peldroed-s4c.jpgFe fydd aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn cynnal gêm bêl-droed wedi'u gwisgo fel David Cameron a phennaeth y BBC Mark Thompson er mwyn gwrthwynebu'r toriadau i S4C, cyn gorymdeithio i Gynadleddau y ddwy blaid wleidyddol yng Nghaerdydd heddiw (10:15am, Dydd Sadwrn y 5ed o Fawrth).Fe fydd y mudiad iaith yn gorymdeithio gyda undebau a grwpiau protest eraill yn erbyn toriadau'r Llywodraeth San Steffan ar yr un pryd â Chynadleddau'r Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghaerdydd. Mae Cymdeithas yr Iaith yn cyhuddo'r Llywodraeth a'r BBC o chwarae â dyfodol S4C drwy eu cynlluniau i roi'r sianel dan y BBC.Meddai Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Mae S4C yn cael ei thrin fel pêl sydd yn cael ei chicio rhwng y BBC a'r Llywodraeth yn Llundain. Mae arweinydd pob plaid yng Nghymru wedi galw ar y Llywodraeth i atal eu cynlluniau ar gyfer S4C a chynnal arolwg llawn o'r sianel er mwyn gallu gwneud penderfyniad rhesymol ar ddyfodol y sianel. Mae Jeremy Hunt wedi anwybyddu'r alwad hon. Nid yw Llywodraeth Prydain wedi ymgynghori o gwbl gydag unrhyw un o Gymru am ddyfodol y sianel, ac mae'n edrych yn debyg nad ydynt yn bwriadu gwneud chwaith."peldroed-s4c1.jpgEr hynny mae BBC dan y lach hefyd wrth i Gymdeithas eu gweld fel cyd-gynllwynwyr. Wrth i drafodaethau am ddyfodol S4C barhau rhwng y BBC ac S4C tu ôl i ddrysau caeedig mae Cymdeithas yr Iaith yn pryderu fod y BBC a'r Llywodraeth yn diystyru Cymru yn gyfan gwbl.Ychwanegodd Bethan Williams:"Mae'r gynulleidfa a phobl Cymru wedi'i diystyru yn gyfan gwbl gan y ddau barti sydd yn hollol sarhaus. Dylai pobl Cymru wybod beth sydd yn digwydd i sianel a frwydrodd y genedl gyhyd drosti. Mae'n haelodau yn eu rhanbarthau wedi bod yn dangos eu protest a'u gwrthwynebiad i gynlluniau'r Llywodraeth a'r BBC frwy wahanol weithredoedd; ac mae hwn yn ddigwyddiad arall i ddangos nad ydym ni yn trin hyn fel gêm."Mae S4C yn wynebu toriadau o dros 40% mewn termau real a chael ei thraflyncu gan y BBC, a fydd yn tanseilio ei hannibyniaeth yn ôl Cymdeithas yr Iaith. Maent wedi bod yn cynnal ymgyrch yn annog pobl i wrthod talu eu trwydded nes bod sicrwydd o annibyniaeth S4C a chyllid digonol i alluogi hynny.