S4C - Ymgyrchwyr o flaen y llys

Yn dilyn gwrandawiad yn llys ynadon Caerdydd heddiw cyhoeddwyd y bydd achos prawf dau ymgyrchydd iaith a weithredodd fel rhan o'r ymgyrch i achub S4C yn cael ei gynnal ddechrau mis Gorffennaf (2yh, Gorffennaf 7fed, 2011).

Honnir i'r ddau ymgyrchydd - Jamie Bevan (35, Merthyr Tudful) a Heledd Melangell Williams (21, Nant Peris) - dorri i mewn i swyddfa etholaeth Aelod Seneddol Ceidwadol Gogledd Caerdydd, Jonathan Evans, a chwistrellu slogan ar wal yr adeilad fel protest yn erbyn y newidiadau i S4C.

Mae Llywodraeth Prydain yn ceisio newid y gyfraith er mwyn torri ei grant i S4C o naw deg pedwar y cant, ac ariannu'r sianel trwy'r BBC yn bennaf yn y dyfodol.

Dywed Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Bethan Williams :"Mae'n amser i'r bobl sydd wedi elwa'r mwyaf o fodolaeth S4C sylweddoli aberth y bobol sydd wedi peryglu eu rhyddid dros y blynyddoedd er mwyn ein hiaith. Dros y degawdau, mae cannoedd o bobl fel Heledd a Jamie wedi rhoi eu bywoliaeth, rhyddid ac yn un achos eu bywyd yn y fantol dros y Gymraeg. Hebddyn nhw, byddai ein hiaith yn llawer llai nag y mae hi heddiw."Wrth gwyno am wasanaethau Cymraeg yr erlyniad, ychwanegodd Ms Williams:"Ar ôl wyth wythnos dydy'r erlyniad heb gyflwyno tystiolaeth lawn i'r diffynyddion o hyd oherwydd bod Jamie a Heledd am gynnal yr achos yn y Gymraeg. Ni ddylai fod mor anodd i sicrhau gwasanaeth Cymraeg dros bedwar deg mlynedd wedi i'r wladwriaeth addo gwasanaethau llys yn y Gymraeg."