Safonau iaith - ble mae'r sector breifat?

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ymateb i ddatganiad y Prif Weinidog am yr amserlen ar gyfer datblygu safonau iaith.

Daw’r newyddion wedi i’r mudiad iaith lansio ymgyrch dros sefydlu’r hawl i ofal iechyd yn Gymraeg; yr hawl i weithio yn Gymraeg; a’r hawl i chwarae yn Gymraeg yn y safonau iaith newydd. Yn y lansiad yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst eleni, llofnodwyd datganiad yn cefnogi sefydlu’r hawliau hynny gan Keith Davies AC, Elin Jones AC ac Aled Roberts AC.

Mae’r Gymdeithas wedi rhoi nes Chwefror 1af i’r Prif Weinidog ddatgan ei fwriad i sefydlu hawliau drwy’r safonau iaith, fel rhan o becyn o chwe pholisi, a fyddai’n dangos ymateb digonol i ganlyniadau’r Cyfrifiad ym marn y mudiad.

Bydd y grŵp pwyso yn cynnal Rali’r Cloeon yn Aberystwyth ar Ragfyr y 14eg er mwyn atogoffa’r Llywodraeth o’u cyfrifoldeb a’r disgwyliadau arnyn nhw i weithredu er lles y Gymraeg.

Dywedodd Siân Howys, llefarydd hawliau Cymdeithas yr Iaith: “Mae’n hen bryd i’r Prif Weinidog gyflawni hawliau i’r cyhoedd er mwyn i bawb gael byw yn Gymraeg - hawliau megis yr hawl i weithgareddau hamdden ar ôl ysgol i blant yn y Gymraeg, yr hawl i ddysgu'r Gymraeg a'i defnyddio yn y gweithle, a'r hawl i gleifion dderbyn gofal iechyd yn yr iaith. Dyna’r ffordd i gyflawni strategaeth iaith y Llywodraeth a’i ddymuniad i gynyddu defnydd y Gymraeg ymysg pobl ifanc. Yn Rali’r Cloeon, bydd Llywodraeth Cymru yn gweld diffygion y drefn bresennol, wrth i bobl o bob rhan o Gymru ddod ag enghreifftiau lle nad yw’r hawliau hyn yn cael eu parchu.

"Addawodd y Llywodraeth, yn gwbl glir, yn ei strategaeth iaith y bydden nhw’n gosod safonau ar y sectorau preifat a gwirfoddol yn ogystal â’r sector gyhoeddus. Felly, ble mae’r amserlen ar gyfer gosod safonau ar gwmnïau preifat a chyrff eraill?"