Safonau Iaith - Mae’r iaith eich angen chi!

Annwyl gyfaill,

Ydych chi eisiau hawliau clir a chadarn i ddefnyddio gwasanaethau yn Gymraeg?   

Os felly, cymerwch 30 eiliad i anfon yr ebost isod at Gomisiynydd y Gymraeg, Llywodraeth Cymru a'ch Aelodau Cynulliad lleol er mwyn gwella'r safonau iaith drafft. Mae’n rhaid ei anfon erbyn diwedd dydd Gwener yma!

www.cymdeithas.org/safonau

Mae’r safonau iaith yn mynd i lywio tynged ein hawliau iaith dros y pymtheg mlynedd nesaf a mwy. Felly, mae’n bwysig iawn bod cynifer o bobl â phosibl yn ymateb i’r ymgynghoriad. Allwch chi felly rannu’r ddolen yma ar Facebook a Twitter hefyd?

Dyletswyddau i ddarparu gwasanaethau Cymraeg yw safonau iaith, fydd yn disodli cynlluniau iaith. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei dogfen ‘Safonau arfaethedig mewn perthynas â’r Gymraeg’ ar 6 Ionawr 2014 ar gyfer awdurdodau lleol, parciau cenedlaethol a Llywodraeth Cymru. Wedi blynyddoedd o ymgyrchu caled, mae gennym Fesur y Gymraeg 2011 a statws swyddogol i’r iaith, ond y safonau hyn yw cyfle Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg i weithredu a sicrhau bod gennym hawliau clir i’r Gymraeg.

Mae Comisiynydd y Gymraeg yn cynnal ymchwiliad rhwng 27 Ionawr a 18 Ebrill i ddyfarnu pa sefydliadau fydd yn gorfod cydymffurfio â safonau, a pha safonau fydd yn berthnasol i ba sefydliadau. Bydd hi hefyd yn gallu cynnig newidiadau i’r safonau drafft ac ychwanegu atynt. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod yn disgwyl y bydd safonau’r Gymraeg ar eu ffurf terfynol mewn grym erbyn mis Tachwedd 2014.

Gallwch hefyd lenwi holiadur Comisiynydd y Gymraeg drwy fynd yma:

http://www.comisiynyddygymraeg.org/Cymraeg/Cyfraith/mesurygymraeg2011/Ymchwiliadausafonau/Pages/Holiadur-Ymchwiliadau-Safonau-Cyhoedd.aspx

Diolch eto am eich cefnogaeth.

I’r gad,

Robin Farrar

Cadeirydd, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

robin@cymdeithas.org post@cymdeithas.org  

@cymdeithas

01970 624501