"Bil y Gymraeg i'r Bin" yw neges yr ymgyrchwyr
Mae ymgyrchwyr wedi agor sgip tu allan i gynhadledd Llafur Cymru yn Llandudno heddiw gan annog Gweinidog y Gymraeg i daflu eu cynlluniau ar gyfer Bil y Gymraeg i mewn iddi.
Ym mis Awst y llynedd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru bapur gwyn ar ddeddfwriaeth iaith newydd oedd yn cynnig diddymu Comisiynydd y Gymraeg. Allan o 504 ymateb i ymgynghoriad y Llywodraeth ar y cynigion, dim ond 77 oedd yn cefnogi diddymu'r Comisiynydd. Nid yw Gweinidogion Cymru yn cynnig diddymu swyddi cyhoeddus eraill o bwys megis y Comisiynydd Plant na'r Comisiynydd Pobl Hŷn.
Wrth siarad am agor y sgip, meddai David Williams o Gymdeithas yr Iaith:
"Mae'r sgip yn un i'r gymuned gyfan ac mae croeso i unrhyw un ollwng eu sbwriel ynddi yn ystod cynhadledd Llafur Cymru. Gobeithio'n fawr y bydd y Gweinidog Eluned Morgan yn manteisio ar y cyfle i daflu eu cynlluniau ar gyfer Bil y Gymraeg i'r sgip. Yn y bin mae lle'r Bil hwn – fe fyddai'r cynigion yn troi'r cloc yn ôl i'r nawdegau a dyddiau Deddf Iaith wan y Torïaid. Rhwng diddymu Comisiynydd y Gymraeg, lleihau gallu'r cyhoedd i gwyno'n effeithiol a gwanhau'r pwerau i orfodi'r Safonau, byddai hyn yn gam mawr yn ôl. Mae angen corff annibynnol i hyrwyddo'r Gymraeg hefyd, ond nid drwy wanhau'r gyfundrefn rheoleiddio mae gwneud hynny. Mae angen un pencampwr cryf i ganolbwyntio ar reoleiddio, ac mae angen mwy o reoleiddio, nid llai."
"Mae angen Bil er lles y bobl, yr iaith a'i defnydd, nid Bil er lles y biwrocratiaid fel hyn. Byddai'n well iddyn nhw beidio deddfu o'r newydd o gwbl na throi'r cloc yn ôl fel hyn a gwanhau ein hawliau. Bydd pobl Cymru yn gwrthod gadael i'r Llywodraeth wanhau eu hawliau iaith fel hyn."