Sianel '62 - sianel deledu Gymraeg newydd!

Bydd sianel deledu Cymraeg newydd yn mynd yn fyw heddiw (Dydd Llun, Mai 30) mewn ymdrech i dynnu sylw at y bygythiadau i S4C.Y cyflwynydd teledu Angharad Mair, fydd yn lansio "Sianel 62" sy'n darlledu o babell Cymdeithas yr Iaith ac ar-lein yn ystod Eisteddfod yr Urdd eleni. Ers dechrau ei ymgyrch mae'r mudiad iaith wedi bod yn galw am S4C newydd, a dyma un o'u hymdrechion i dynnu sylw at yr angen am newidiadau i'r darlledwr.Yn ôl Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, nifer o bwrpasau sydd tu ôl i'r sianel amgen:"Yn wyneb bygythiadau i S4C rydyn ni wedi creu sianel newydd dros-dro, Sianel '62. Mae'r sianel yn dangos y problemau sydd yn deillio o'r diffyg adnoddau. Problemau a fydd yn effeithio ar S4C achos y toriadau enfawr sy'n ei wynebu sydd yn bygwth ei bodolaeth. Ond hefyd, bydd modd i bobl dod i'n stondin ar y Maes a ffilmio clipiau i gyfrannu at y sianel eu hunain."Does dim cyllid gan Sianel '62 felly dim ond am yr wythnos bydd hi yn darlledu. Yn yr un modd does dim sicrwydd o gyllid gan S4C tu hwnt i 2015. Does dim modd rhedeg sianel yn iawn heb gyllid hir-dymor, na chynllunio ar gyfer y dyfodol. Mae dau beth felly rydyn ni'n galw amdanyn nhw - sicrhau annibyniaeth S4C a bod cyllid digonol wedi'i glustnodi. Heb y ddau beth yna ni fydd dyfodol sicr i'r sianel felly rydyn ni'n gofyn i bobl atal eu trwydded deledu nes bydd sicrwydd i'r sianel."Fe fydd y sianel yn darlledu uchafbwyntiau ymgyrch S4C dros y flwyddyn ddiwethaf, clipiau sydd wedi cael eu hanfon i mewn gan aelodau'r Gymdeithas o gwmpas Cymru.Mae nifer o ddisgyblion ysgol yn ymddangos ar y fideo yn esbonio pam bod S4C yn bwysig iddyn nhw. Un o'r bobl sydd yn ymddangos ar y sianel newydd oedd yn weithredol yn yr ymgyrch i sefydlu'r sianel yw Ffred Ffransis, mae'n dweud yn y darllediad:"Faint ohonoch oedd yn rhan o'r ymgyrch i sefydlu BBC3? Na, Neb? Fallai oeddech chi'n rhan o'r ymgyrch dros sefydlu sianel deledu E4+1? ... I ddweud y gwir doedd dim ymgyrch i sefydlu sianeli o'r fath yna. Ond mi oedd 'na ymgyrch dros sefydlu sianel deledu Cymraeg, rhywbeth unigryw yn y byd, rhywbeth sydd yn cael ei ystyried yn un o gonglfeini ein diwylliant."