
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi llongyfarch cynghorwyr Sir Gâr ar eu penderfyniad y dylai eu Prif Weithredwr nesaf fod yn ddwyieithog.
Dywedodd Bethan Williams o Gymdeithas yr Iaith:
“Rydyn ni’n llongyfarch y cynghorwyr ar eu penderfyniad - mae’n newyddion gwych sy’n golygu y bydd modd i'r Cyngor symud yn gyflym at weinyddu’n fewnol drwy’r Gymraeg, a hynny ym mhob adran. Mae'n briodol fod cymorth a hyfforddiant i swyddogion o ran eu sgiliau ieithyddol, technoleg gwybodaeth ac yn y blaen fel eu bod yn gynyddol gyflawni eu gwaith yn Gymraeg.”