
Bydd y rhaglen sgwrsio ar-lein Skype ar gael yn Gymraeg o heddiw ymlaen, diolch i waith cyfieithu gwirfoddol gan garedigion yr iaith. Daw’r newyddion ar ddiwrnod Shwmae Su’mae, diwrnod sy’n annog unigolion i ddefnyddio a dathlu’r Gymraeg sydd gyda nhw bob dydd.
Trefnir y diwrnod gan Fudiadau Dathlu’r Gymraeg, grŵp ymbarél o 25 mudiad sy’n hybu a hyrwyddo’r iaith ar lawr gwlad bob dydd. Meddai Is-gadeirydd Grŵp Digidol Cymdeithas yr Iaith, Aled Powell, a fu’n helpu
i gyfieithu rhyngwyneb y rhaglen Skype: “Hoffwn ddiolch i’r holl bobl sydd wedi
arwain ar y gwaith yma. Mae sicrhau bod gan y Gymraeg bresenoldeb cryf ar y we
yn hollbwysig i’w ffyniant dros y blynyddoedd i ddod. Gan nad ydyn ni’n gallu
dibynnu ar Lywodraeth Carwyn Jones i weithredu ar fyrder ar ein rhan, mae’n
rhaid i ni fel unigolion gymryd materion i’n dwylo ein hunain. Mae’r ffaith bod
rhaglenni fel Facebook a Skype bellach ar gael yn Gymraeg yn dangos potensial
grymuso pobl. Mae ’na obaith ym mrwdfrydedd pobl y bydd pawb, rywbryd yn y
dyfodol, yn byw eu bywydau yn Gymraeg.”
Ychwanegodd Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “ Fel mudiad sy’n aelod o Fudiadau Dathlu’r Gymraeg, mae’n bleser gennym gefnogi Diwrnod Shwmae Su’mae. Byddwn ni’n annog pobl ar hyd a lled Cymru i ddechrau pob sgwrs yn Gymraeg, nid yn unig heddiw, ond drwy’r flwyddyn.”
Gellir lawrlwytho Skype yn Gymraeg yma