‘Smonach’ dros gyllideb y Gymraeg - galw am ailystyriaeth

Mae ymgyrchwyr wedi galw am ailystyriaeth lawn o gyllideb Cymru, wedi i Carwyn Jones honni bod y buddsoddiad yn y Gymraeg wedi ei ‘ddiogelu’, er bod ei gyllideb ddrafft yn cynnwys toriad o dros £1.5 miliwn i wariant ar yr iaith.

Yn ôl y gyllideb ddrafft, bydd y gwariant ar ‘yr iaith Gymraeg’ yn y gyllideb yn cwympo o £25,076,000 eleni i £24,376,000 yn 2014-15, gan gwympo ymhellach i  £23,511,000 yn 2015-16. Byddai hynny’n doriad o £700,000 y flwyddyn nesaf a £856,000 y flwyddyn ganlynol.

Er hynny, wrth ymateb i gwestiwn ysgrifenedig gan yr Aelod Cynulliad Simon Thomas wedi i Lywodraeth Cymru gyhoeddi’r gyllideb ddrafft, dywedodd y Prif Weinidog: “Mae’n bleser gen i gyhoeddi ein bod wedi cynnal lefel y cyllid ar gyfer y Gymraeg yn y gyllideb ddrafft hon.” Mae gwariant ar brosiectau sy’n ymwneud â’r Gymraeg yn benodol yn cynrychioli 0.15% o gyllideb Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.  

Dywedodd Sioned Haf, Is-gadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Mae’r ymateb yma yn codi cwestiynau am allu’r Llywodraeth. Allai’r gyllideb ddrafft fel cafodd ei cyhoeddi ddim bod yn gliriach: mae’r buddsoddiad yn Gymraeg yn cael ei dorri, er gwaethaf yr argyfwng a gafodd ei amlygu gan y Cyfrifiad. Os yw’r Prif Weinidog nawr yn dweud rhywbeth gwahanol, a oes camgymeriad yn y gyllideb ddrafft felly? Ydy e’n bwriadu gwyrdroi’r toriad sydd lawr ar bapur? Mae angen atebion i hyn, os yw Carwyn Jones yn addo rhywbeth i’r Cynulliad fe ddyle fe gadw at ei air. ”

“Wrth gymharu Cymru gyda Gwlad y Basg, mae’r buddsoddiad yn ein hiaith yn isel iawn yn barod heb sôn am y toriadau ychwanegol hyn. Mae’r toriadau arfaethedig hyn nid yn unig yn gwbl annerbyniol, ond yn mynd yn gwbl groes i’r hyn mae pob plaid wedi dweud wrthom ers canlyniadau’r Cyfrifiad – sef bod angen rhagor o fuddsoddiad er mwyn sicrhau twf yn y Gymraeg. O ystyried yr argyfwng a ddaeth yn amlwg drwy ganlyniadau’r Cyfrifiad, mae’r toriadau yma yn mynd i’r gwrthwyneb i’r hyn sydd ei angen: dylid cynyddu’r buddsoddiad yn y Gymraeg ar draws holl adrannau’r Llywodraeth.”

Yn ei Maniffesto Byw, cynigion polisi manwl a gyhoeddwyd fel ymateb i ganlyniadau’r Cyfrifiad, dywed y mudiad y dylai fod adolygiad cyflawn o effaith iaith holl wariant y llywodraeth. Dywedant hefyd y dylid cynyddu’r adnoddau a roddir i hyrwyddo’r Gymraeg i’r un lefel â Gwlad y Basg, sef pedair gwaith cymaint â’r gwariant presennol yng Nghymru.

Dywedodd y mudiad ei fod yn ‘synnu’n fawr’ fod Carwyn Jones heb gyhoeddi asesiad effaith iaith y gyllideb fel yr addawodd ei wneud ym mis Chwefror eleni mewn cyfarfod â aelodau’r mudiad iaith.

Ychwanegodd Sioned Haf: “Beth fyddai diben asesiad effaith iaith o gyllideb wedi i’r gyllideb gael ei phasio? Efallai mai’r gwir reswm am yr oedi yma yw cuddio’r effaith negyddol y bydd y toriadau hyn, heb os, yn ei chael ar y Gymraeg. Wedi’r cyfan, dylai’r asesiad sicrhau bod patrymau gwariant nifer o adrannau’r llywodraeth yn newid, a hynny er lles yr iaith. Mae angen yr asesiad nawr fel bod modd i Aelodau Cynulliad allu craffu ar y gyllideb yn iawn.”

Mae’r Gymdeithas wedi rhoi tan Chwefror 1af i’r Prif Weinidog ddatgan ei fwriad i gynyddu’r buddsoddiad mewn prosiectau sy’n ymwneud â’r Gymraeg yn benodol a chynnal asesiad effaith iaith o gyllidebau’r dyfodol, fel rhan o becyn o chwe pholisi, a fyddai’n dangos ymateb digonol i ganlyniadau’r Cyfrifiad ym marn y mudiad. Bydd y grŵp pwyso yn cynnal Rali’r Cloeon yn Aberystwyth ar Ragfyr y 14eg er mwyn atgoffa’r Llywodraeth o’u cyfrifoldeb arnyn nhw i weithredu.

Golwg 360 - Cymdeithas: ‘Smonach dros gyllideb y Gymraeg’

Western Mail - Language campaigners demand re-think of Welsh budget