Stondinwyr 'mewn gwlag'

Eisteddfod yr Urdd Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cyhuddo'r Urdd o'u halltudio i gwlag ar y maes nad oes fawr neb yn ymweld ag ef!

Dywedodd Dafydd Morgan Lewis ar ran Cymdeithas yr Iath Gymraeg, un o'r stondinwyr y gosodwyd eu pebyll ger yr Eglwys Norwyaidd yn y Bae yng Nghaerdydd, y bydd yn ystyried gofyn i'r Urdd am ostyngiad yn ei rent."Mae ein busnes ni i lawr £250 i £300 y dydd o'i gymharu â'r llynedd oherwydd ei bod mor ddistaw yma," meddai Dafydd Morgan Lewis o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg."Mae rhywun yn gofyn iddo'i hun be mae o wedi'i wneud i'r Urdd i haeddu alltudiaeth i gwlag o'r fath," meddai."Ar ben hynny mae'r Urdd yn erfyn am i stondinwyr ddod yma a chefnogi'r Eisteddfod ond wedyn yn eu rhoi ni mewn lle fel hyn," ychwanegodd.urdd2005_cym1.jpg12pm Dydd Sadwrn, â'r stryd ger stondin y Gymdeithas yn wag! Nifer o'r stondinau megis y Cymro - wedi gadael canol wythnos!urdd2005_cym2.jpgDim i'w wneud ond yfed te, a syllu i'r gwagle!urdd2005_cym3.jpgCodi pac, ac ail leoli tu allan i uned y Cynulliad. Cyfle i gasglu enwau ar y ddeiseb dros Ddeddf Eiddo.urdd2005_cym4.jpgYr heddlu yn annog aelodau'r Gymdeithas i fynd yn ôl i'r uned.urdd2005_cym5.jpgOnd buddugoliaeth, a chyfle i hysbysebu Rali Tryweryn! (Er nad oedd llawer wedi mynychu'r Eisteddfod o gwbl dydd Sadwrn beth bynnag!)Pwyswch yma i ddarllen y stori yn llawn oddi ar wefan BBC Cymru'r Byd.