Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ymateb i gyhoeddiad strategaeth iaith y Llywodraeth. Fe ddywedodd Ceri Phillips, llefarydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Rydym yn croesawu gonestrwydd y Llywodraeth am y sefyllfa ieithyddol yng Nghymru, yn enwedig y ffocws ar ddefnydd yr iaith yn hytrach na niferoedd yn unig. Ond, er bod nifer o syniadau da yn y strategaeth, rydym yn amau parodrwydd gwasanaeth sifil y Llywodraeth i wireddu'r cynlluniau. Mae diffyg targedau pendant yn destun pryder hefyd.""Ydy'r gwasanaeth sifil yng Nghymru yn mynd i barhau i adael y Saesneg fel iaith arferol y gweithle? Os felly, mae'n codi'r cwestiwn o ba mor bwysig yw normaleiddio'r iaith a chynyddu'i defnydd iddynt. Heb ymarfer rhagweithiol a blaengar Llywodraeth Cymru ei hun, nid oes gobaith argyhoeddi cyrff eraill i newid eu harferion."