Swydd - Swyddog Ymgyrchoedd

Mae gan y Gymdeithas gyfle cyffrous i unigolyn ymuno â’n tîm staff bach ond effeithiol.

Swyddog Ymgyrchoedd: Rydyn ni’n chwilio am Swyddog Ymgyrchoedd gweithgar a brwdfrydig i weithio gyda’n grwpiau ymgyrchu a'n rhanbarthau i gefnogi ein hymgyrchoedd ac ysbrydoli eraill i gymryd rhan. Dyma gyfle gwych i ddatblygu eich sgiliau a chyfrannu at lwyddiant ymgyrchoedd y Gymdeithas o fewn meysydd addysg, cymunedau, hawliau iaith a’r byd darlledu a digidol mewn cyfnod tyngedfennol i’r iaith a’n cymunedau.

Cyflog: £25,000 y flwyddyn. Manylion llawn a sut i ymgeisio.

Dyddiad cau: canol dydd, dydd Llun, 12 Medi 2022

Cymdeithas o bobl sy’n gweithredu’n ddi-drais dros y Gymraeg a chymunedau Cymru fel rhan o’r chwyldro rhyngwladol dros hawliau a rhyddid ydyn ni. Ni fyddwn yn gwahaniaethu yn erbyn unrhyw ymgeisydd ar sail anabledd, cenedligrwydd, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol, dosbarth cymdeithasol, ethnigrwydd, hil, hunaniaeth rhywedd, rhywedd, statws rhianta na chyfrifoldebau gofal. 

Rydym yn awyddus i dderbyn ceisiadau gan bobl o bob rhan o’n cymunedau, yn enwedig pobl o gymunedau du a lleiafrifoedd ethnig, sy’n aml yn cael eu tangynrychioli mewn swyddi o’r math hwn.