Tai haf: yr ‘annhegwch presennol yn rhemp’

Daeth ymgyrchwyr ynghyd ym Mhenrhyndeudraeth heddiw i drafod camau polisi i ddelio ag effaith ail gartrefi ar y Gymraeg.

O dan gadeiryddiaeth y pensaer, y gweithredwr cymdeithasol a’r ymgyrchydd iaith Sel Jones, trafododd Liz Saville Roberts AS, Elfed Roberts ac Elin Hywel wahanol agweddau o’r pwnc. Yn ôl ystadegau diweddar, roedd 39% o’r tai a werthwyd yng Ngwynedd yn 2017/18 yn ail gartrefi.

Yn siarad ar ôl y digwyddiad, dywedodd Robat Idris o Gymdeithas yr Iaith:

“Os oes yna un pwnc llosg sy’n crisialu argyfwng y Gymru gyfoes, yna “Tai” yw hwnnw. Pwy sy’n berchen arnyn nhw? Pwy sy’n medru fforddio eu prynu? Pwy sy’n methu fforddio eu prynu? Mae’r annhegwch presennol yn rhemp – mae rhai yn berchen mwy nag un tŷ, eraill heb yr un, a rhai heb do o gwbl uwch eu pennau. Mae yna ddadl am edrych tuag at beth mae ardaloedd yng Nghernyw wedi gwneud, o ran cyfyngu ar y nifer o ail gartrefi mewn ardal, ac mae hynny’n un pwynt sydd angen ei drafod.

“Mae diffyg tai fforddiadwy yn broblem drwy Gymru benbaladr, a ffaith ddiymwad yw fod siroedd Cymreiciaf y Gorllewin o dan bwysau ychwanegol aruthrol gan fod cymaint o dai un ai yn ail gartrefi, neu’n dai sy’n cael eu prynu yn un swydd er mwyn eu gosod i ymwelwyr. Mae prisiau wedi codi cymaint nes eu bod yn aml allan o gyrraedd pobl ifanc lleol sy’n ceisio prynu tŷ am y tro cyntaf. Pan gyplysir hyn efo cyflogau isel, ‘does ryfedd yn y byd fod yna broblem aruthrol wedi datblygu i raddau sy’n waeth na dim a welwyd yn y gorffennol, ar waetha’r holl rybuddion a’r ymgyrchu a fu.  Os edrychwn ar Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion a Chaerfyrddin dros y degawd diwethaf, mae 117,000 o bobl ifanc rhwng 15 a 29 wedi gadael yr ardaloedd hynny”.