Taliadau Ffermio: Rhybudd mudiad iaith am “Hunllef ‘Wythnos yng Nghymru Fydd’”

Mae mudiad iaith wedi rhybuddio y gallai newidiadau arfaethedig Llywodraeth Cymru i daliadau ffermio ddinistrio'r Gymraeg ar lawr gwlad.  

Mae Gweinidogion Llafur Cymru yn ymgynghori ar hyn o bryd ar sut y bydd taliadau i ffermwyr yn newid yn dilyn Brecsit. Ymysg y cynigion mae'r Llywodraeth ym Mae Caerdydd yn eu hargymell, mae gwneud y taliadau yn agored i bawb, nid i ffermwyr yn unig; rhoi mwy o bwyslais ar ddefnyddio tir ar gyfer coedwigoedd, hamdden a thwristiaeth; a dod â’r cynllun taliadau sylfaenol i ben, rhaglen sy’n cynnal llawer iawn o ffermydd bychain.   

Yn ôl Cyfrifiad 2011, mae 40% o weithwyr amaeth yn siarad Cymraeg, sef y ganran uchaf o bob maes gwaith yn y wlad.   

Meddai Robat Idris, Is-gadeirydd grŵp cymunedau Cymdeithas yr Iaith:  

"Gyda’r pwyslais ar ddefnyddio tir Cymru ar gyfer coedwigoedd, hamdden a thwristiaeth, mae'n ymddangos bod y Llywodraeth am atgyfodi hunllef o’r nofel ‘Wythnos yng Nghymru Fydd’ lle mae tir Cymru yn cael ei orchuddio gan goedwigoedd. Rydyn ni’n gresynu at y ffaith bod ein Llywodraeth ddatganoledig yn agor cil y drws ar yr hunllef hon drwy gynnig cymhorthdal hael i bobl, cwmnïau a chyrff o’r tu allan i Gymru er mwyn dinistrio cymunedau gwledig ein gwlad.   

"Fel mudiad a fu’n cydsefyll gyda’r glowyr yn yr wythdegau, gwelwn berygl mawr fod y polisi a’r egwyddorion yn y ddogfen ymgynghori yn mynd i arwain at ddinistr economaidd ac ieithyddol i gymunedau gwledig fel ddigwyddodd i'r cymunedau oedd yn ddibynnol ar y diwydiant glo.”    

Ychwanegodd:  

"Mae'r diwydiant amaeth yn eithriadol o bwysig i gymunedau gwledig Cymru ac i'r Gymraeg. Mae canran y gweithwyr amaeth sy’n siarad Cymraeg yn uwch nag unrhyw faes gwaith arall yn y wlad. O ystyried y teuluoedd mae’r bobl yma'n cefnogi, mae degau o filoedd o siaradwyr Cymraeg yn dibynnu’n uniongyrchol ar y diwydiant amaeth i'w cynnal.    

"Yn ogystal â hynny, mae llawer o gymunedau lle siaredir y Gymraeg gan fwyafrif y boblogaeth yn ddibynnol iawn ar ffermio. Mae ardaloedd helaeth yn y gorllewin, y canolbarth a’r gogledd lle mae hyd at 27% o’u poblogaeth yn gyflogedig yn y sector amaeth. Mae’r ardaloedd hyn hefyd yn ardaloedd lle mae canran y gweithlu amaethyddol sy’n siarad Cymraeg dros 90% mewn sawl man. Mae tystiolaeth ryngwladol yn dangos bod cymunedau lle mae dwysedd uchel o siaradwyr iaith leiafrifoledig yn hanfodol i'w pharhad fel iaith fyw. Dyna pam fod gennym bryderon mawr am y newidiadau i'r cymorth mae’r Llywodraeth yn eu cynnig. ”  

Mae ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ‘Brexit a’n tir’ yn cau am hanner nos heno (dydd Mawrth, 30ain Hydref).