Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi dweud bod ‘gwendidau’ cyngor newydd TAN 20 yn dangos bod angen newidiadau llawer mwy pellgyrhaeddol i’r system gynllunio.
Dywed y nodyn technegol: “Ni ddylid cynnal asesiad o effaith ceisiadau cynllunio
ar y Gymraeg gan y byddai hynny’n dyblygu prosesau dewis safleoedd y [cynllun
datblygu lleol].”
Ychwanegodd y mudiad iaith eu bod nhw eisoes wedi gofyn am newidiadau mwy mewn
dogfen bolisi a anfonwyd at Carwyn Jones yn ôl ar ddechrau mis Awst eleni.
Dywedodd Cen Llwyd, ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Mae’r system gynllunio
yn lladd y Gymraeg ar hyn o bryd. Byddwn ni’n ystyried y nodyn newydd yn fanwl,
ond mae’r gwendidau ynddo fe yn dangos angen difrifol am newidiadau mwy
sylfaenol i’r system gynllunio’n ehangach, a hefyd arolygiaeth gynllunio
annibynnol i Gymru. Mae nifer fawr o awdurdodau wedi mabwysiadu eu cynlluniau
datblygu lleol yn barod, a dyw’r canllawiau ddim yn delio â’r broblem honno.
Dyna pam anfonon ni bapur safbwynt manwl at Carwyn Jones. Mae’r ffaith bod y
nodyn yn datgan na ddylai awdurdodau gynnal asesiadau effaith iaith ar geisiadau
cynllunio unigol yn rhyfedd iawn. Dyw’r nodyn ddim yn trin y Gymraeg fel iaith i
bawb nac i bob rhan o Gymru chwaith.”
Ychwanegodd Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Nid nawr yw’r
amser i wneud mân newidiadau i’r system gynllunio. Am lawer rhy hir, mae’n
cymunedau a’n pobl – boed yn siaradwyr Cymraeg neu beidio – wedi dioddef
effeithiau negyddol y farchnad rydd. Yn hytrach na gwasanaethu pobl a
chymunedau, mae’r farchnad dai a’r gyfundrefn gynllunio wedi cymryd mantais
ohonynt. Mae pwerau deddfu newydd Cynulliad Cymru yn cynnig cyfle i dorri’n
rhydd o’r meddylfryd neo-ryddfrydol hwnnw. Hefyd, mae angen ateb Cymru-gyfan, yn
hytrach nag un sydd ddim ond yn amddiffynnol ynglŷn â'r Gymraeg. Cred y
Gymdeithas fod gan bob cymuned botensial i fod yn gymuned Gymraeg, a dylai'r
system gynllunio gyfrannu at dyfu’r Gymraeg, yn ogystal ag amddiffyn y cymunedau
Cymraeg sy’n bodoli eisoes.”
Ymysg argymhellion y mudiad ar gyfer newidiadau i’r system gynllunio, maen nhw’n
galw am i’r Bil Cynllunio:
* gynnwys asesu'r angen lleol am dai cyn datblygu; sicrhau'r hawl i gartref am
bris teg (i'w rentu neu i'w brynu) yng nghymuned y person sy'n rhentu neu brynu;
blaenoriaeth i bobl leol drwy'r system bwyntiau tai cymdeithasol; system
gynllunio sydd yn gweithio er budd y gymuned; sicrhau ailasesu caniatâd
cynllunio blaenorol;
* sicrhau hawliau cymunedau i ymwneud â'r broses gynllunio a rhoi hawl i
gymunedau a grwpiau apelio yn erbyn penderfyniadau cynllunio;
* sefydlu “Arolygiaeth Gynllunio” i Gymru fel corff gwbl annibynnol, corff sydd
yn gyfrifol am apeliadau ac archwiliadau i mewn i ddatblygiadau cynllunio, a
sicrhau rheolaeth ddemocrataidd ohono”;
* wneud asesiadau effaith iaith yn ofyniad statudol, a gosod TAN 20 ar sail
statudol;
* atal pob cynllun datblygu unedol tan fydd asesiad wedi ei wneud o’i effaith ar
y Gymraeg;
* sicrhau bod cynghorwyr yn gallu gwrthod cais cynllunio ar sail yr effaith ar y
Gymraeg