Tocynnau Gŵyl Grug 2007 ar Werth Rwan!

Gigs Steddfod yr WyddgrugAeth tocynnau ar gyfer Gigs Tafod Steddfod 2007 Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar werth heddiw. Mae’r tocynnau ar gael o flaen llaw drwy gysylltu a Swyddfa’r Gymdeithas yn Aberystwyth (01970 624501, dafydd@cymdeithas.org) neu drwy alw heibio i’r Bar Smwddi ar Stryd Wrecsam yng nghanol tref Yr Wyddgrug.

Un o brif atyniadau yr wythnos o adloniant fydd yn cael ei gynnal yng Nghlwb Rygbi’r Wyddgrug rhwng 4 – 11 Awst eleni yw’r ŵyl undydd ‘Gŵyl Grug’, drwy’r dydd o 12 o’r gloch ymlaen ar y Sadwrn olaf. Bydd pymtheg o fandiau yn perfformio yn ystod y dydd, yn gymysgedd o fandiau newydd ac o rai o artistiaid amlycaf y sîn Gymraeg. Wedi dechrau’r diwrnod gyda ffeinal Brwydr y Bandiau 2007, bydd Endaf Presley (gynt o KAFC), Yr Ods, Coda, Y Gwyddel, The Stilletoes, Calansho yn perfformio yn ystod y prynhawn gyda DJ Steffan Cravos. Gyda’r hwyr bydd DJ Dyl Bili yn cymryd yr awenau rhwng perfformiadau gan Cofi Bach a Tew Shady, Plant Duw, Mattoidz, Derwyddon Dr Gonzo ac, yn olaf ac yn flaenaf, Radio Luxembourg.Meddai Steffan Cravos, Swyddog Adloniant y Gymdeithas:“Gŵyl Grug fydd uchafbwynt yr wythnos o ran Adloniant Tafod Steddfod 2007, ac yn wir o ran holl weithgareddau’r wythnos yn yr ardal. Does yr un digwyddiad arall ble bydd posib gweld cymaint o fandiau gorau Cymru mewn un lle ar yr un diwrnod. Bydd yn gyfle i bawb ymlacio drwy’r dydd i swn cerddoriaeth dda ac yn glo teilwng i wythnos o gigs sy’n argoeddi i fod yn un fyth-gofiadwy. Pa ffordd well o roffen yr wythnos na gyda Radio Luxembourg, Deryddon Dr Gonzo, Mattoids a Plant Duw?! Gyda line-up o’r fath bydd yn anodd cael tocynnau ar y diwrnod, felly byddai’n gall prynu o flaen llaw rhag cael eich siomi.”Am fwy o fanylion pwyswch yma...