Torri’r gyfraith am ddiffyg Cymraeg ar drenau: Gweinidogion yn apelio

Mae Gweinidogion wedi cyflwyno apêl gyfreithiol yn erbyn dyfarniad Comisiynydd y Gymraeg eu bod wedi torri’r gyfraith drwy beidio â sicrhau bod gwasanaethau Cymraeg ar drenau.

Mewn dyfarniad drafft y llynedd, daeth Comisiynydd y Gymraeg i’r casgliad bod Llywodraeth Cymru wedi torri’r gyfraith mewn naw gwahanol ffordd wrth beidio â chynnig gwasanaethau Cymraeg ar drenau a gorsafoedd. Mae’r methiannau cyfreithiol yn cynnwys: cyhoeddiadau sain uniaith Saesneg; tocynnau uniaith; gohebu yn Saesneg yn unig; a gwefan nad oes modd prynu tocynnau drwy’r Gymraeg arni. Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi cyflwyno apêl i Dribiwnlys y Gymraeg yn erbyn y dyfarniad, oedd yn dilyn cyfres o gwynion a phrotestiadau gan aelodau o Gymdeithas yr Iaith am y sefyllfa.

Wrth ymateb i’r newyddion, meddai David Williams o Gymdeithas yr Iaith:

“Mae hyn yn sgandal. Yn lle defnyddio eu hadnoddau i gryfhau’r iaith, mae’n Llywodraeth ni’n treulio’u hamser ac yn gwario ein harian ar danseilio hawliau pobl i’r Gymraeg. Mae’r Llywodraeth wedi bod yn oedi rhag ymestyn Safonau’r Gymraeg i’r maes trafnidiaeth ers blynyddoedd, gan ddweud nad oes digon o gyfreithwyr i wneud y gwaith. Fodd bynnag, pan ddaw hi at ffeindio cyfreithwyr i danseilio ein hawliau iaith, ymddengys bod hen ddigon ohonyn nhw. Mae Llywodraeth Llafur Cymru yn gwneud mwy i danseilio ein hawliau iaith na’u cryfhau - mae’n gywilyddus.”

Ychwanegodd:

“Rydyn ni wedi cael llawer o gwynion gan aelodau a chefnogwyr am fethiannau'r gwasanaethau trenau newydd - mae’n hollol amlwg pam bod pobl mor flin am y sefyllfa. Dyw pethau sylfaenol fel cyhoeddiadau sain a thocynnau ddim ar gael yn Gymraeg. Dyw hi ddim hyd yn oed yn bosib prynu tocyn trên yn Gymraeg ar eu gwefan. Roedd yr holl ddiffygion yma o ran gwasanaethau Cymraeg ar ein trenau yn gwbl ragweladwy, ymhell cyn iddyn nhw gymryd rheolaeth dros y gwasanaeth. Dylen nhw fod wedi cynllunio i gadw at ofynion y gyfraith a datrys unrhyw broblemau flynyddoedd yn ôl.

“Rydyn ni wedi cwrdd â Thrafnidiaeth Cymru nifer o weithiau dros y flwyddyn ddiwethaf, a’r Gweinidog Ken Skates yn ddiweddar. Rydyn ni wedi bod yn glir ein bod ni’n disgwyl i’r methiannau sylfaenol yma gael eu datrys cyn gynted â phosibl. Dyw hi ddim yn dderbyniol i’r Llywodraeth dorri’r gyfraith na chaniatáu i’r cwmni yma amddifadu pobl o hawliau sylfaenol i weld, clywed a defnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd.”

Sefydlwyd Trafnidiaeth Cymru yn 2016 fel is-gwmni o dan berchnogaeth lawn Llywodraeth Cymru. Trafnidiaeth Cymru yw’r sefydliad trosfwaol, ac mae elfen y rheilffyrdd, sef ‘Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru’ a reolir gan Keolis Amey, yn gweithredu Gwasanaeth Rheilffyrdd Cymru a’r Gororau. Maen nhw wedi bod yn gyfrifol am y gwasanaeth trenau yng Nghymru ers mis Hydref 2018.