'Tyrrwch yn llu' i Wrecsam - Gruff Rhys

separado.jpgMae'r seren bop Gruff Rhys yn annog Eisteddfodwyr i gael blas ar ei ffilm lwyddiannus am Batagonia yn ystod yr ?yl yn Wrecsam eleni.Mae Separado!, sydd yn daith bersonol i Gruff Rhys, yn rhoi Patagonia mewn cyd-destun diwylliannol ehangach yn yr Ariannin, ac yn pellhau ei hun oddi wrth y ffordd ramantus o ffilmio'r Cymry ym Mhatagonia.Bydd y ffilm yn cael ei ddangos yn yr Orsaf Ganolog yn Wrecsam ar Nos Sul Gorffennaf 31, cyn i'r seren ei hun, Rene Griffiths, roi blas ar ganeuon Latino-Geltaidd yn ei ffordd unigryw ei hun.Mae tocynnau'r noson ar werth am £6 yr un ar-lein o cymdeithas.org/steddfod ac yn bersonol o Gaffi Yales Wrecsam, Awen Meirion Y Bala, Elfair Rhuthun, ac o swyddfeydd y Gymdeithas yng Nghaernarfon, Aberystwyth a Chaerdydd.Fe ddywedodd Gruff Rhys, canwr pop sydd wedi ryddhau sawl albwm yn unigol ac fel rhan o'r Super Furry Animals:"Cymerodd Separado 5 mlynedd i'w chwblhau. Y syniad oedd ceisio cyfleu delwedd wleidyddol, weledol a cherddorol gytbwys or profiad Lladin/Gymreig ym Mhatagonia. Heb os enigma barhaus Rene Griffiths sy'n gludo'r holl beth at ei gilydd, ac ef yw'r uchafbwynt cerddorol.""Gwrandewch yn astud ar ei ganeuon a'i chwarae cywrain ar y tannau. Dyma wr unigryw, ffraeth ac arallfydol. Tyrrwch yn llu i brofi ei ddoniau athrylithgar ar y gitar, heb fod yn glust dyst gredwch chi byth!"Ychwanegodd Nia Lloyd, cydlynydd y Pwyllgor Trefnu lleol:"Holl nod ein gigs yn yr Eisteddfod eleni yw hybu'r frwydr i amddiffyn ein cymunedau lleol - y rhai gwledig ac yma yn Wrecsam - rhag yr ymosodiadau gan y Llywodraeth Doriaidd newydd yn San Steffan. Mae'n briodol felly ein bod yn cychwyn yr wythnos drwy edrych ar yr ymdrech i greu cymuned Gymraeg ym Mhatagonia, ac yr ydym yn arbennig o falch fod Rene Griffiths ei hun yn dod i ganu yn y noson."Manylion llawn y gigs yma - cymdeithas.org/steddfod