Un continwwm dysgu Cymraeg, ond pryd fydd yna un cymhwyster i bawb?

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu cadarnhad Llywodraeth Cymru heddiw y bydd yna un continwwm o ddysgu’r Gymraeg dan y cwricwlwm newydd, ond wedi apelio unwaith eto ar y Llywodraeth i gyhoeddi un cymhwyster Cymraeg i bob disgybl cyn gynted â phosibl.    

Meddai Toni Schiavone o Gymdeithas yr Iaith:  

"Rydyn ni'n croesawu bwriad y Llywodraeth i sefydlu un continwwm o ddysgu'r Gymraeg. Fodd bynnag, mae'n hanfodol bod un cymhwyster Cymraeg i bob disgybl ar gael nawr i gyd-fynd â'r datblygiad hwn. Fel arall, mae peryg na welwn ni newid gwirioneddol ar lawr gwlad. Wedi'r cwbl, sut allan nhw roi'r gorau i addysgu'r Gymraeg fel ail iaith nawr ond eto parhau â'r cymhwyster Cymraeg ail iaith tan 2027? Dyna pam rydyn ni'n galw ar y Llywodraeth i gyhoeddi cymhwyster cyfunol enghreifftiol cyn gynted â phosibl. Byddai hynny'n sicrhau bod ysgolion blaengar yn gallu braenaru'r tir nawr, er mwyn codi disgwyliadau a safonau yn y Gymraeg i bawb."  

“Law yn llaw â hyn, mae angen strategaeth llawer mwy cynhwysfawr o ran cynllunio’r gweithlu – drwy hyfforddiant mewn swydd a chwotâu ar gyfer hyfforddiant cychwynnol i athrawon. Mae hefyd angen normaleiddio’r Gymraeg fel cyfrwng addysgu ym mhob sefydliad addysg, rhywbeth nad oes yr un targed ar ei gyfer yn y cynlluniau addysg Gymraeg lleol ar hyn o bryd. Ers dros bum mlynedd bellach, mae gweithredu’r Llywodraeth ar yr agenda hwn wedi bod yn boenus o araf.”