Yr angen i ni uno yn erbyn ymosodiadau ar ein hawliau ni i gyd

Yn rali Ni Isio Byw yng Nghaerdydd heddiw bydd Mabli Siriol, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, yn defnyddio'r cyfle i ddweud bod angen i ni uno yn erbyn ymosodiadau Llywodraeth Prydain ac eraill ar ein hawliau, a chydsefyll fel y mudiad ffeministaidd, y mudiad iaith a phawb arall sydd eisiau creu byd heb drais a gormes.

Meddai:

Mae Cymdeithas yr Iaith yn fudiad di-drais ers ein sefydlu 60 mlynedd yn ôl, ac rydyn ni’n golygu ‘di-drais’ yn ystyr ehangaf y gair.

Ydy, mae am ein dulliau gweithredu a’r ffordd rydyn ni’n trin ein gilydd. Ond mae hefyd am ddychmygu, dyheu a gweithio tuag at fyd heb drais. Byd heb ryfel nac arfau niwclear, byd heb orthrwm o bob math. Byd lle mae pawb, a phob merch, yn rhydd rhag trais a gormes — ar ein strydoedd ac yn ein cartrefi.

Rydyn ni’n gwybod bod y frwydr dros ein hiaith yn rhan o frwydr ehangach, byd-eang, dros hawliau a chyfiawnder. Ac nid oes rhyddid i neb, heb ryddid i bawb.

Rydyn ni’n gwybod hefyd y ffurfiau niferus y mae trais yn gallu eu cymryd. Ac mae byd lle mae dwy ferch bob wythnos yn cael eu lladd gan bartner neu gyn-bartner, ac un ymhob pump o ferched wedi cael ei threisio, yn fyd sy’n cael ei greu a’i gynnal gan strwythurau ein cymdeithas a gweithredoedd y wladwriaeth.

Dyma gymdeithas wedi’i seilio ar ddominyddiaeth, trais a chamddefnydd grym. Un lle mae gwladwriaethau’n gallu defnyddio bomiau i gael eu ffordd. Cymdeithas lle mae’r heddlu’n gallu camdrin, a hyd yn oed lladd, y rhai maen nhw i fod i’w hamddiffyn, heb bron dim atebolrwydd. Cymdeithas lle mae ein llywodraethau’n brolio eu hymrwymiad i ‘gydraddoldeb’ merched, tra bod nhw’n torri gwasanaethau trais rhywiol a domestig.

Blwyddyn yn ôl, cafodd Sarah Everard ei llofruddio gan heddwas, nath ddefnyddio ei rym swyddogol i’w lladd hi. Ac ers hynny, rydyn ni wedi gweld yr heddlu yn camdrin y rhai oedd yn galaru amdani, a’r Llywodraeth yn defnyddio ei llofruddiaeth erchyll hi i gyfiawnhau’r Bil Heddlu a Throsedd newydd, fydd yn rhoi rhagor o rym i’r heddlu, criminaleiddio protest ac erlyn lleiafrifoedd.

Felly dwedwn ni na i’r Bil, i ragor o rym i’r heddlu, y system cyfiawnder troseddol a’r wladwriaeth. Rydyn ni’n gwrthod gadael iddyn nhw ddefnyddio ein hofn, ein poen, ein brwydr ni fel cyfiawnhad i’w gormes nhw.

Ni fyddwn yn datrys y broblem o drais yn erbyn merched trwy’r heddlu na’r llysoedd. Nid unrhyw wleidydd, deddf, neu sefydliad fydd yn ein hachub ni, dim ond ni all neud hynny.

Yn lle rhagor o ddatganiadau gwag am gefnogi 'cydraddoldeb', mae angen buddsoddi mewn gwasanaethau trais domestig a thrais rhywiol, sicrhau bod gan bawb y gallu i gefnogi eu hun a newid blaenoriaethau ein cymdeithas o un sy'n buddsoddi mewn arfau, i un sy'n buddsoddi mewn gofal.

Rydyn ni’n bell iawn o’r byd di-drais yna heddi. Ond wrth sefyll gyda’n gilydd, ar nosweithiau fel hyn, mae modd i ni ei ddychmygu ac ail-ymrwymo i’w greu, llaw yn llaw. Mewn angerdd, mewn undod, mewn gobaith.