Wythnos yn y carchar dros S4C

jamie-bevan-caerdydd-230811-bach.jpg

Fe gafodd ymgyrchydd iaith ei garcharu am wythnos heddiw (Dydd Mawrth, Awst 23) ar ôl iddo gymryd rhan mewn protest dros ddyfodol S4C.

Cosb Jamie Bevan, 35 mlwydd oed o Ferthyr Tudful, yw'r carchariad cyntaf i ymgyrchydd iaith dros ddyfodol darlledu Cymraeg ers bron i dri deg mlynedd. Torrodd Jamie Bevan i mewn i swyddfa etholaeth Aelod Seneddol Ceidwadol Gogledd Caerdydd, Jonathan Evans, a chwistrellu slogan ar wal yr adeilad. Mi oedd y weithred ddi-drais yn rhan o ymgyrch Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn erbyn cynlluniau'r Llywodraeth i dorri ei grant i S4C o 94% ac uno'r sianel a'r BBC.Mewn achos llys blaenorol, gorchmynnwyd i Jamie Bevan gael tag a thalu iawndal o £1,020. Nid yw wedi derbyn y tag na chadw at yr hwyrgloch a osodwyd arno er mwyn tynnu sylw at y bygythiad i S4C. Mewn arwydd arall o natur heddychlon y protestwyr, darllenodd Gweinidog lleol neges i'r ymgyrchwyr a ymgynullodd yn y llys.

Yn siarad o flaen Llys Ynadon Caerdydd, fe ddywedodd Jamie Bevan:"Mae'r gwleidyddion yn Llundain yn parhau i anwybyddu'r holl fudiadau a lleisiau yng Nghymru parthed S4C, ac maent yn parhau yn eu sarhad o'n genedl fach.""Gweithredais i ddim er lles fy hun. Anwybyddais i ddim y cerffiw er lles fy hun. A nid er lles fy hun dwi'n gwrthod talu dirwyon na chostau. Gweithredais, ac yn parhau i weithredu, yn egwyddorol, heb hunan gyfiawnder, yn gwbl hyderus yr ydw i yn wneud yr unig beth y gallaf wneud o dan yr amgylchiadau annemocrataidd rydym yn wynebu."

"Yn eu cais gwreiddiol i atal fechnïaeth dwedodd yr heddlu yr oeddwn yn rhywun heb unrhyw fath o barch tuag at gyfraith a threfn. Gai ddweud, yr ydw i'n byw rhan helaeth o fy mywyd yn gyfreithiol ac yn drefnus, yn gweithio llawn amser, a mwy, yn dad cyfrifol a chariadus. Ond dydw i ddim yn parchu trefn a chyfraith sydd yn dewis a dethol pwy maent am amddiffyn ac sydd yn dewis pryd i weithredu'n ddemocrataidd neu beidio."

"Nid oes unrhyw annhegwch cymdeithasol erioed wedi newid trwy dderbyn yn llwfr y rheolau a osodwyd gan yr ychydig sydd yn warchod dim ond buddiannau hunanol eu hun. Rhaid wrth wthio a chicio yn erbyn y tresi os ydyn am weld newid go iawn a newid er budd ein cymunedau."

Ychwanegodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Rydym yn gofyn i bobl wrthod talu eu trwydded teledu er mwyn dangos cefnogaeth i Jamie. Os nad yw'r Llywodraeth yn gwrando ar lais unedig pobl Cymru - sydd yn gwrthwynebu eu cynlluniau i roi dyfodol S4C yn y fantol - fe wynebiff mwy a mwy o'n pobl ifanc gyfnod yn y carchar. Dyna ganlyniad penderfyniadau annoeth Llywodraeth San Steffan. Mae'n hurt ar ol brwydr y 70au a 80au ein bod ni yn y fath sefyllfa lle mae rhaid brwydro eto dros yr hyn a enillwyd degawdau yn ol."

Fe fydd y bobl sydd yn gwrthod talu'r drwydded teledu yn gwneud hynny hyd nes bod y Llywodraeth yn sicrhau annibyniaeth y sianel a chyllid digonol i redeg y gwasanaeth angenrheidiol i bobl Cymru. Mae'r mudiad wedi gofyn i bawb sydd am gefnogi'r ymgyrch hon e-bostio'r Gymdeithas ar post@cymdeithas.org neu drwy ffonio 01970 624501.