Y Bil Cynllunio - Cyflwyno papur trafod i’r Gweinidog

Dylai fod blaenoriaeth i bobl leol yn y system gynllunio er mwyn cryfhau cymunedau Cymraeg - dyna un o argymhellion papur polisi a gyflwynir gan Gymdeithas yr Iaith mewn cyfarfod gyda’r Gweinidog gyda chyfrifoldeb dros y Bil Cynllunio heddiw.

Daw’r newyddion wedi i’r mudiad iaith fynegi pryder nad oes sôn am y Gymraeg nac effaith y system gynllunio arni yn y Bil drafft. Mae nifer fawr o ddatblygiadau tai wedi bod yn y newyddion yn ddiweddar oherwydd eu heffaith ar y Gymraeg megis ceisiadau cynllunio am dai ym Mhenybanc, Bethesda a Bodelwyddan.

Ymysg y cynigion yn y papur trafod wyth tudalen y bydd aelodau’r Gymdeithas yn ei gyflwyno i’r Gweinidog Tai ac Adfywio mewn cyfarfod heddiw, mae’r syniadau canlynol:

* gwneud y Gymraeg yn ystyriaeth cynllunio berthnasol ledled Cymru fel bod modd gwrthod ceisiadau ar sail eu heffaith iaith;

* rhoi blaenoriaeth i bobl leol;

* gwneud asesiadau effaith iaith yn ofyniad statudol ar gyfer datblygiadau o faint penodol;

* sefydlu Tribiwnlys Cynllunio i Gymru, yn lle’r Arolygiaeth Gynllunio bresennol, a fyddai’n gwrando ar apeliadau gan gymunedau ac unigolion;

* sefydlu mai pwrpas y system gynllunio fyddai diwallu anghenion lleol; a

* mabwysiadu polisi caffael blaengar;

Mae nifer y cymunedau sydd â mwy na 70% o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg wedi dirywio’n ddifrifol yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf, o 92 yn 1991 i 39 yn 2011.

Dywedodd Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, a fydd yn arwain y ddirprwyaeth i’r Gweinidog heddiw: "Rydyn ni am gyflwyno’r syniadau polisi hyn er mwyn dangos i’r Gweinidog bod y Bil yn gyfle mawr i gryfhau’r Gymraeg ar lefel gymunedol. Ein safbwynt ni yw bod y system ar hyn o bryd yn rhoi buddiannau datblygwyr mawrion, nifer ohonynt sydd â’u pencadlys tu allan i Gymru, yn gyntaf yn hytrach na chymunedau. Mae’n arwain at sefyllfa lle nad yw pobl yn gallu fforddio byw yn eu hardaloedd lleol. Mae trin tai fel dull o greu elw yn hytrach na gwasanaeth cyhoeddus yn broblem greiddiol i gymunedau Cymraeg, yn ogystal â’r amgylchedd ac anghyfartaledd incwm. Fel sosialwyr, dylai Llywodraeth Cymru ddeall hynny -  rydyn ni'n disgwyl ymateb sosialaidd sy'n gosod anghenion lleol uwch ben elw a grym y farchnad.”

“Mae llawer iawn o dai gwag, a dyna sydd angen canolbwyntio arnyn nhw. ‘Dydyn nhw ddim yn cynnig cyfleoedd am elw mawr i ddatblygwyr mawr, ond maen nhw’n well i adeiladwyr bach, yr economi lleol, yr amgylchedd a’r Gymraeg.

“Mae enghreifftiau lu o broblemau’r gyfundrefn tai a chynllunio bresennol - o Fodelwyddan, i Fethesda i Benybanc. Does dim amheuaeth bod y datblygiadau tai hyn yn anghynaliadwy ac yn cael effaith niweidiol ar yr iaith. Mae nifer y cymunedau sydd â mwy na 70% o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg wedi dirywio’n ddifrifol. Yn wir, un o brif gasgliadau’r Gynhadledd Fawr - ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru a gynhaliwyd yn dilyn canlyniadau trychinebus y Cyfrifiad - oedd bod angen diwygio’r system gynllunio, gan gynnwys rhoi blaenoriaeth i bobl ac anghenion lleol. Nid yw mân newidiadau i’r drefn yn ddigonol - byddwn yn mynnu bod angen bil cynllunio sy’n gadael i’r Gymraeg dyfu.”

Mae’r Gymdeithas wedi rhoi tan Chwefror 1af i’r Prif Weinidog ddatgan ei fwriad i drawsnewid y system gynllunio er lles y Gymraeg fel rhan o weithredu mewn chwe maes polisi er mwyn sicrhau bod y Gymraeg yn tyfu dros y blynyddoedd i ddod. Bydd y grŵp pwyso yn cynnal rali yn Aberystwyth ar Ragfyr y 14eg, blwyddyn ers cyhoeddi canlyniadau’r Cyfrifiad, er mwyn atgoffa’r Llywodraeth o’r cyfrifoldeb sydd arnyn nhw i weithredu.

Cliciwch yma i ddarllen y papur trafod