Mae Cymdeithas yr Iaith wedi eu tristhau o glywed fod dau Gymro Cymraeg wedi eu rhwystro rhag siarad Cymraeg yn y 'Big Brother House'. Nonsens llwyr oedd gwahodd dau Gymro Cymraeg naturiol i gymryd rhan ac yna eu gwahardd rhag siarad eu hiaith gyntaf.
A ydyn ni mewn perygl o gael ein hunain mewn gwladwriaeth lle mae'r Brawd Mawr yn gwylio trosom ac yn penderfynu drosom pa iaith y caniateir i ni ei siarad?Rydym wedi cwyno wrth Channel 4, Ofcom, ac S4C. Mae'n fater o dristwch i ni fod S4C wedi dewis darlledu'r rhaglen hon, gan mai'r holl bwynt dros fodolaeth y gwasanaeth yw i ddarlledu yn y Gymraeg a hybu'r Gymraeg.