Y Cyfrifiad: Galw am bolisiau newydd

Does dim un gymuned yn Sir Gaerfyrddin na Cheredigion lle mae dros saith deg y cant o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg, yn ôl ffigyrau’r Cyfrifiad a gafodd eu rhyddhau heddiw.

Ymysg y cymunedau sydd wedi gostwng o dan 70% o’r boblogaeth sydd yn siarad Cymraeg mae Pontyberem a Phen-y-groes yn Sir Gaerfyrddin - yn 2001, roedd pum cymuned o’r fath yn Sir Gaerfyrddin. Yn strategaeth iaith Llywodraeth Cymru, roedd targed y byddai’r “leihad yn nifer y cymunedau lle mae'r Gymraeg yn cael ei siarad gan dros 70% o'r boblogaeth yn cael ei atal” erbyn 2011.

Cliciwch yma am rai ystadegau mwy manwl

Mae’r Gymdeithas eisoes wedi cwrdd â’r tair gwrthblaid yn y Cynulliad i drafod eu maniffesto byw - eu syniadau ar gyfer cryfhau’r Gymraeg a’i chymunedau - a’r Cyfrifiad. Bydd dirprwyaeth yn cwrdd â Carwyn Jones AC ddydd Mercher y 6ed o Chwefror.

Wrth ymateb i’r ystadegau meddai Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:   

“Wrth reswm, mae’r canlyniadau hyn yn destun pryder mawr, yn enwedig y sefyllfa yn Sir Gaerfyrddin a Cheredigion, lle nad oes un gymuned lle mae dros 70% yn siarad Cymraeg bellach. Mae cymunedau o’r fath yn gwbl hanfodol i’r iaith, ac mae’r dystiolaeth ryngwladol yn gwbl eglur yn hynny o beth. Mae argyfwng yn wynebu’r iaith a’i chymunedau, ac mae angen i’r Llywodraeth roi polisïau newydd ar waith er mwyn sicrhau bod y Gymraeg a’i chymunedau yn ffynnu.  

“Mae angen i Lywodraeth Cymru gydnabod bod ei nod o atal y dirywiad yn nifer y cymunedau 70% wedi methu. Sefyllfa ein cymunedau Cymraeg yw’r eliffant yn yr ystafell i Carwyn Jones - beth mae o’n mynd i’w wneud am y peth? Mae dros fil o bobl wedi mynychu ein ralïau yn ystod yr wythnosau diwethaf - mae o’n atebol i’r bobl hyn, ac mae’n heb bryd iddo wrando. Mae’n rhaid mynd i’r afael â pholisïau sy’n niweidiol i gymunedau Cymraeg, megis datblygiadau tai anferth diangen, canoli gwasanaethau yn hytrach na’i fuddsoddi yn ein cymunedau a diffyg polisïau caffael sy’n sicrhau bod pobl leol yn cael gwaith.

Ychwanegodd: “Yn ein maniffesto byw, rydyn ni’n amlinellu sawl cam cwbl ymarferol y gallai - ac y dylai’r - Llywodraeth ac eraill eu cymryd eleni i newid hynny a chryfhau sefyllfa’r iaith. Rydan ni’n edrych ymlaen at gwrdd â’r Prif Weinidog yr wythnos nesaf i drafod y syniadau hyn. Mae’n hanfodol ei fod yn cydnabod bod argyfwng yn wynebu’r Gymraeg. Dyhead nifer cynyddol o bobl Cymru yw gwlad lle gallwn ni i gyd fyw ein bywydau yn Gymraeg; a sicrhau cryfder cymunedau Cymraeg yw'r unig ffordd o wireddu'r weledigaeth honno. Yr hyn sydd ei eisiau arnom yw’r ewyllys gwleidyddol i wireddu dyheadau pobl ar lawr gwlad.”

Wrth son am y patrymau ar draws Cymru, meddai Toni Schiavone llefarydd cymunedau cynaliadwy'r Gymdeithas:

"Mae rhai ardaloedd lle mae ambell i lygedyn o obaith sydd i’w groesawu, ond dylen ni ddim esgus nad oes gostyngiad yn nifer y siaradwyr a nifer y cymunedau lle mae dros 70% o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg. Dyna pam oedd y strategaeth iaith wedi gosod eu targedau mawr ar y pwyntiau hynny. Mae 'na argyfwng. Rydyn ni yn y Gymdeithas wedi cyhoeddi nifer o syniadau positif ym mhob rhan o Gymru - yn y maes addysg, cynllunio, yr economi a thu hwnt. Mae pobl eisiau byw eu bywydau yn Gymraeg, ac mae angen polisïau newydd ar y Llywodraeth i gefnogi’r iaith ym mhob rhan o’r wlad.”

Yn ei ‘Maniffesto Byw’, mae’r Gymdeithas wedi amlinellu degau o syniadau er mwyn cryfhau’r Gymraeg ar lefel gymunedol. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • trawsnewid y system gynllunio er mwyn taclo her allfudo a mewnfudo trwy’r Mesurau Datblygu Cynaliadwy a Chynllunio newydd;
  • system addysg ledled Cymru lle mae pob disgybl yn gadael yr ysgol yn gwbl rugl yn y Gymraeg;
  • datganoli swyddi i gymunedau a sefydlu polisi caffael sy’n blaenoriaethu cwmnïau lleol;
  • pedryblu buddsoddiad yn yr iaith a mesur ôl-troed ieithyddol holl wariant a chyllideb flynyddol y Llywodraeth;
  • sefydlu cynllun grantiau i brynwyr tai tro cyntaf ac ariannu hyn trwy roi’r hawl i gynghorau godi treth o 200% ar ail gartrefi.

Bydd y rali genedlaethol olaf, mewn cyfres ledled Cymru sy’n ymateb i ganlyniadau'r Cyfrifiad, yn cael ei chynnal yn Aberystwyth ddydd Sadwrn, 50 mlynedd i’r diwrnod ers protest gyntaf y mudiad.

Yn ôl y ffigyrau sydd eisoes wedi’u rhyddhau, roedd ugain mil yn llai o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru - i lawr o 21% yn 2001 i 19% yn 2011 - ac fe gwympodd canran y siaradwyr yn holl siroedd y gorllewin a’r gogledd. Targed Llywodraeth Cymru oedd cynnydd o 5% yn nifer y siaradwyr Cymraeg. Yn ôl Cyfrifiad 2001, gwelwyd gostyngiad sylweddol yn nifer y cymunedau lle mae dros 70% yn siarad Cymraeg - o 92 ym 1991, i 54 yn 2001.