Y frwydr dros S4C i barhau ar ôl colli pleidlais agos

s4c-toriadau.jpgMae ymgyrchwyr iaith wedi addo brwydro ymlaen dros ddarlledu Cymraeg ar ôl colli cais i achub S4C o 1 bleidlais yn Nhy'r Cyffredin heddiw.Mynegwyd siom am benderfyniad Glyn Davies AS (Ceidwadwr, Sir Drefaldwyn) a Stephen Crabb AS (Ceidwadwr, Preseli Penfro) oherwydd iddynt anwybyddu barn eu cyd-Aelodau Seneddol Ceidwadol a feirniadodd y cwtogi a'r newidiadau i'r sianel mewn adroddiad trawsbleidiol yn gynharach eleni.Enillwyd y bleidlais ymysg Aelodau Seneddol o Gymru ar y pwyllgor i dynnu S4C allan o'r Mesur Cyrff Cyhoeddus o dair pleidlais i ddwy. Dim ond pleidleisiau ASau o Loegr sicrhaodd fwyafrif bychan i'r Llywodraeth.Fe ddywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Er gwaethaf y consensws eang yng Nghymru sy'n gwrthwynebu'r cynlluniau hyn, mae pleidleisiau ASau o Loegr wedi llwyddo i wthio'r cynlluniau trwyddo. Mae democratiaeth Brydeinig wedi ein bradychu.""Er hynny rhaid i ni ddal ati gyda'r frwydr i sicrhau dyfodol ein sianel deledu Cymraeg er gwaethaf cynlluniau a frysiwyd gan y llywodraeth fydd yn golygu eu bod yn arbed 94% o'r arian yr oeddynt yn ei wario ar S4C a rhoi'r sianel dan y BBC.""Rydym wedi ymgyrchu dros S4C newydd o'r dechrau felly yr her i'r sianel nawr a'r sawl sy'n gweithio iddi yw i sefyll i fyny ac ymladd dros ei dyfodol."Torrodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith ar draws y gweithgareddau wedi'r bleidlais gan weiddi "Mae hyn yn sarhad ar bobl Cymru" cyn cael ei hebrwng o'r ystafell. Mae hi yn awr yn cael ei chwestiynu gan yr heddlu.