"Y Gymraeg i bawb" - diwrnod datganoli pwerau iaith

Bydd aelodau Cymdeithas yr Iaith yn ymgasglu heddiw (Dydd Mercher, 10fed o Chwefror) ym Mae Caerdydd wrth i bwerau dros yr iaith Gymraeg cael eu trosglwyddo o Lundain i Gymru.Er bod y mudiad yn anhapus gyda gwendidau cynlluniau'r llywodraeth, mae'r ymgyrchwyr yn dod i Fae Caerdydd i gydnabod pwysigrwydd y diwrnod yn hanes Cymru. Mae'r mudiad wedi bod yn ymgyrchu ers 1999 am Ddeddf Iaith newydd; wrth alw am fesur iaith sy'n cynnwys tri pheth: Statws swyddogol i'r iaith Gymraeg, hawliau statudol i bobl Cymru i'r iaith Gymraeg, a Chomisiynydd Iaith a fydd â'r grym i reoleiddio'r mesur.Yn siarad cyn y protest, dywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Gr?p Deddf Iaith Cymdeithas yr Iaith:"Yn sgil trosglwyddo bwerau, dylai gwleidyddion Cymru ddeall bod dyletswydd mawr arnyn nhw nawr i ddeddfu er mwyn gwella sefyllfa'n hiaith, sydd yn etifeddiaeth i bawb.

"Mae'n glir bod y proses hir-wyntog hon wedi gadael y Cynulliad â phwerau hollol annigonol, ond mae'r Llywodraeth wedi addo sefydlu hawliau i bobl Cymru i weld, clywed a defnyddio'r iaith, ac rydym yn disgwyl iddynt gadw'r addewid hynny. Mae mwyafrif llethol o boblogaeth Cefnogi eisiau gadael i'r iaith fyw a ffynnu oherwydd ei bod hi'n unigryw i'n gwlad.""Mae'r Gymdeithas wedi bod yn ymgyrchu am fwy na deng mlynedd dros Ddeddf Iaith newydd; cyfle unwaith mewn cenhedlaeth yw hwn. Felly, mae angen mesur iaith sydd wedi ei seilio ar yr hawl i'r Gymraeg gan gynnwys y maes addysg, tai, cynllunio a'r gweithle."Bydd aelodau o Gymdeithas yr Iaith hefyd yn cyflwyno deunydd uniaith Saesneg gan y cwmnïau mawrion i Fwrdd yr Iaith Gymraeg. Tystiolaeth sydd wedi ei gasglu gan aelodau ar draws Cymru yw hwnnw sydd yn dangos nad yw cwmnïau mawr yn cynnig gwasanaeth Cymraeg cyflawn i'w cwsmeriaid yng Nghymru.Ychwanegodd Bethan Williams:"Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn cymeradwyo ambell arwydd Cymraeg gan gwmnïau mawr ond dyw hynny ddim yn ddigonol i bobl Cymru. Mae eu hagwedd yn sarhaus ac yn cyfleu fod y Gymraeg yn eilradd.""Mae'n debyg bod y Llywodraeth a Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn credu bod gwasanaethau Cymraeg pitw yn ddigon i bobl Cymru. Rydyn ni am ddangos yn glir nad yw'n ddigon. Gan nad yw'r Llywodraeth wedi llwyddo i weithredu ar ein rhan i sicrhau'n hawliau drwy gynnwys busnesau'r stryd fawr raid i ni weithredu ar ran pobl Cymru."Bydd aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn cyflwyno proclamasiwn i Fwrdd yr Iaith Gymraeg sydd yn datgan fod aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn dechrau ar gyfnod o weithredu yn erbyn busnesau sy'n gwrthod darparu gwasanaethau Cymraeg cyflawn ac yn defnyddio'u cynllun iaith disylwedd fel esgus am hynny.