
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi rhoi croeso gofalus i’r newyddion heddiw (Chwefror 18) ei bod yn ymddangos y bydd y Gymraeg yn un o amcanion datblygu cynaliadwy statudol y Llywodraeth.
Ers dros flwyddyn, mae’r mudiad iaith wedi bod yn pwyso ar Lywodraeth Cymru i gynnwys y Gymraeg fel rhan o ddiffiniad datblygu cynaliadwy, gyda nifer fawr o’u cefnogwyr yn cysylltu â’r Llywodraeth.
Dywedodd Toni Schiavone, llefarydd cymunedau cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Mae’r newyddion hyn yn arwyddocaol, ac rwy’n falch bod ein pwysau yn dechrau dwyn ffrwyth, ond eto nid yw’n glir a fydd y Gymraeg yn rhan o’r diffiniad statudol o ddatblygu cynaliadwy yn y Bil neu beidio, sef yr hyn mae’r Gweinidog a Peter Davies wedi addo. Hefyd, os yw’r Gymraeg yn mynd i fod yn rhan greiddiol o ddatblygu cynaliadwy, wedyn mae’n rhaid i’r Bil Cynllunio, fan leiaf, wneud y Gymraeg yn ystyriaeth statudol yn y drefn gynllunio.”
Ym mis Awst y llynedd, ysgrifennodd Cymdeithas yr Iaith at Carwyn Jones gan ofyn iddo wneud datganiad o fwriad i newid chwe polisi sylfaenol erbyn 1af Chwefror 2014: addysg Gymraeg i bawb; tegwch ariannol i'r Gymraeg; gweinyddu'n fewnol yn Gymraeg; safonau iaith i greu hawliau clir; trefn cynllunio er budd ein Cymunedau; a’r Gymraeg yn greiddiol i ddatblygu cynaliadwy.