Y Gynhadledd Fawr - ymateb Cymdeithas

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ymateb i lansiad swyddogol Cynhadledd Fawr
Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “‘Dan ni wedi
croesawu’r ffaith bod y Llywodraeth yn cynnal sgwrs o’r fath, ond rydyn ni wedi
pwysleisio ei bod yn bryd am weithredoedd brys yn hytrach na siarad yn unig.
Ry’n ni wedi cyflwyno dros dri deg o argymhellion manwl i’r Prif Weinidog, er
mwyn i bobl gael byw yn Gymraeg. Mae o wedi addo ymateb cyn diwedd wythnos
nesaf. Fodd bynnag, os nad yw’r Llywodraeth yn cyhoeddi y canllawiau cynllunio,
TAN 20, cyn y gynhadledd, mae’n debyg y bydd yn anodd iawn cynnal sgwrs
adeiladol. Ers dros 2 flynedd rydan wedi bod yn aros am y canllawiau cynllunio
cadarnach newydd ond 'dyn nhw dal heb gael eu cyhoeddi. Wrth i ni aros mae tynged yr iaith yn ein cymunedau yn dioddef o ganlyniad i ddatblygiadau tai diangen.”


 

Bydd Cymdeithas yr Iaith yn cynnal cyfarfod cyffredinol arbennig ar ddydd Sadwrn
Mehefin 8fed i fabwysiadu'r Maniffesto Byw yn ffurfiol, a fydd yn llywio ymateb
y mudiad i Gynhadledd Fawr y Llywodraeth.