Yn ymateb i adroddiad 'Cyhoeddi gweledigaeth S4C ar gyfer 2012-2015 ' a gyhoeddwyd gan S4C heddiw, dywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Mae'r adroddiad yn cadarnhau'r hyn rydyn ni, fel ymgyrchwyr, wedi bod yn proffwydo ers y llynedd. Mae pobl Cymru yn mynd i dderbyn safon is o raglenni oherwydd cwtogiad ar grant y Llywodraeth i S4C o 94%. Fe fyddwn ni'n cynnal rali ddydd Iau nesaf tu allan i Lys Ynadon Caerdydd cyn i ddau o'n haelodau wynebu'r carchar dros y sianel.""Mae unig sianel deledu Gymraeg y byd ar fin diflannu oherwydd cydgynllun BBC a'r Llywodraeth. Maen nhw'n gwrthod gwrando ar y 13,000 o bobl a lofnododd ein deiseb, Archesgob Cymru, y Pwyllgor Materion Cymreig, Pwyllgor Diwylliant San Steffan, arweinwyr y pleidiau yng Nghymru, a'r 2000 o bobl a fynychodd ein rali yn y brifddinas. Mae mwy a mwy o bobl yn datgan eu bod nhw'n gwrthod talu eu trwyddedau teledu achos y bygythiad i ddarlledu yng Nghymru, mae'n debyg mai dyna'r unig beth sydd yn mynd atal y toriadau hyn.""Mae'n bwysig bod rheolwyr y sianel yn sylweddoli nad yw'r Gymraeg ar gyfer plant yn unig, dyna pam mae'n bwysig bod yna raglen cylchgrawn i oedolion yn y prynhawn. Os yw'r Gymraeg i fyw, mae rhaid i S4C adlewyrchu bywydau pobl o bob oedran ar y sgrin. Drwy gydol ein hymgyrch rydyn ni wedi bod yn galw am S4C newydd - rhaid i'n sianel genedlaethol ni symud at fod yn ddarparwr aml-gyfryngol. Fydd hynny ddim yn bosibl gyda thoriad mor sylweddol."